Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu
Mae’r math o wasanaethau yr ydym yn eu darparu, a’n diben eglur i gefnogi ein cymunedau a’r amgylchedd, fel y’u nodir yn ein Erthyglau Cymdeithasu ers 2019, yn golygu bod materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud.
Amgylchedd
I wybod mwy am sut rydym yn gweithio’n galed ac yn buddsoddi llawer iawn i ddiogelu ein hadnoddau dŵr gwerthfawr a’r gwaith ehangach yr ydym yn ei wneud i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd hollbwysig, cliciwch yma.
Llywodraethu
Glas Cymru Holdings Cyfyngedig, cwmni cyfyngedig trwy warant sy’n berchen ar Dŵr Cymru Welsh Water ar ran ei gwsmeriaid. Ein gweledigaeth yw ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd, i wybod mwy cliciwch yma.
Amgylchedd
Rydym yn ymrwymo i leihau ein hôl-troed amgylcheddol cyffredinol, a gwella’r amgylchedd naturiol yr ydym yn gweithio ynddo lle bynnag fo hynny’n bosibl, er mwyn bod o fudd i natur a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Cymdeithasol
Wrth wraidd ein strategaeth hirdymor y mae ein diben ehangach – cefnogi ein cydweithwyr, ein cwsmeriaid a’n cymunedau.
Llywodraethu
Ers i Glas Cymru gaffael busnes Dŵr Cymru yn 2001, rydym wedi dilyn Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU a gweithio i sicrhau llywodraethu da a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn cydnabod bod angen i lywodraethu da fod yn sail i’r holl benderfyniadau a wnawn fel rhan allweddol o’n hymrwymiad i Ennill Ymddiriedaeth ein Cwsmeriaid Bob Dydd.
Ein Pwyslais
Fel busnes a arweinir gan ddiben, mae gan ein strategaeth bwyslais cryf, yn naturiol, ar ganlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu cadarnhaol.