Cymuned
Fel cwmni cyfrifol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cwsmeriaid a'r gymuned leol ym mhob agwedd sy'n ymwneud â dŵr a'r gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu.
Mae gennym ystod o wasanaethau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi ein cwsmeriaid mewn gwahanol agweddau ar eu bywydau.
- Mae ein menter Cartref yn hybu effeithlonrwydd dŵr trwy atgyweirio gollyngiadau a chyngor arbed dŵr am ddim, gan sicrhau bod pob diferyn yn cyfrif.
- Rydym yn estyn help llaw i gwsmeriaid bregus gyda chefnogaeth wedi'i deilwra, a nod ein rhaglenni addysg yw ysbrydoli cariad at gynaliadwyedd dŵr, a dealltwriaeth ohono, yng nghenedlaethau'r dyfodol.
- I bobl sy'n wynebu heriau ariannol, mae ein gwasanaethau cymorth dyled a gyrfa a chyflogadwyedd yn cynnig achubiaeth, gan rymuso unigolion i oresgyn rhwystrau a ffynnu.
- Gall busnesau elwa o'n canllawiau Stopio’r Bloc, atal problemau draenio a meithrin amgylchedd glanach.
- Mae'r Gronfa Gymunedol a'r cyfleoedd gwirfoddoli yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddatblygiad lleol a lles ar y cyd.
- Mae ein Prosiect Cymunedau Dŵr Gwydn yn enghraifft o'n dull arloesol, integredig lle rydym yn dod â'r agweddau hyn at ei gilydd mewn dull sy'n seiliedig ar le.
Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn ymgorffori ein gweledigaeth o gymuned gefnogol, rymus a gwydn.
I wybod mwy, dilynwch y dolenni isod:
Cartref (Effeithlonrwydd Dŵr)
Elwa i’r eithaf ar effeithlonrwydd dŵr gartref gyda Cartref. Cyngor arbed dŵr ac thrwsio gollyngiadau am ddim i gadw'ch biliau yn isel a chadwraeth yn uchel.
Cymorth i Gwsmeriaid sy'n Agored i Niwed
Mae ein rhaglen REACH yn cysylltu cwsmeriaid sy’n agored i newid â chefnogaeth hanfodol, meithrin perthnasoedd a lles cymunedol.
Addysg
I ysbrydoli meddyliau ifanc, mae ein rhaglenni addysg yn cynnig gwersi diddorol am ddim i ysgolion, gan feithrin dinasyddion byd-eang y dyfodol.
Cymorth Dyledion
Yn cael trafferth gyda biliau? Mae ein cynlluniau Cymorth Dyledion yn eich helpu i glirio ôl-ddyledion, rheoli taliadau, ac adennill sefydlogrwydd ariannol.
Cymorth Gyrfa a Chyflogadwyedd
Dechreuwch eich gyrfa gyda'n Cymorth Cyflogadwyedd. Enillwch sgiliau a phrofiad trwy leoliadau gwaith a phrentisiaethau.
Cefnogaeth Stopio'r Bloc
Cadwch eich busnes yn llifo'n llyfn gyda'n canllawiau Stopio’r Bloc ac arolygon cegin, gan atal problemau draenio costus.
Cronfa Gymunedol
Gan rymuso mentrau lleol, mae ein Cronfa Gymunedol yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n gwella iechyd, lles a'r amgylchedd.
Gwirfoddoli
Ymunwch â'n hymdrechion gwirfoddoli i wneud gwahaniaeth diriaethol yn eich cymuned a chefnogi ein cenhadaeth amgylcheddol.
Prosiect Cymunedau Dŵr Gwydn
Mae ein Prosiect Cymunedau Dŵr Gwydn yn adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynaliadwy trwy gefnogaeth arloesol, gydweithredol.