Neidio i’r cynnwys

Prosiect Monitro Mewnlif ac Ymdreiddiad (IIM)


Mae Dŵr Cymru yn cyflwyno Prosiect Monitro Lefelau Carthffosiaeth mawr a fydd yn arwain at osod 10,000 o fesuryddion lefel carthffosiaeth ledled Cymru.

Bydd y gwaith pwysig hwn yn gwella ein dealltwriaeth o berfformiad ein rhwydwaith dŵr gwastraff ac i weld ble mae angen gwneud gwelliannau.

Mae'r prosiect eisoes wedi dechrau, a’r gobaith yw y bydd wedi'i gwblhau erbyn Mawrth 2027.

Mewn ambell i le, efallai y bydd arnom angen mynediad at dyllau archwilio ar eiddo preifat. Ar brydiau, rhain fydd y pwyntiau monitro mwyaf addas.

Beth mae'r mesuryddion yn ei wneud?

Mae'r mesuryddion yn mesur sut mae lefelau carthffosiaeth yn newid yn ystod cyfnodau o law, amrywiadau tymhorol, ac amodau eraill. Bydd yr wybodaeth yn ein helpu ni i:

  • Nodi mewnlif ac ymdreiddiad i'r rhwydwaith
  • Gwella perfformiad y system
  • Lleihau'r perygl o lifogydd a gorlifo mewn stormydd
  • Diogelu'r amgylchedd a gwella gwytnwch hirdymor y rhwydwaith

Pwysig: Nid mesuryddion llif yw'r rhain, ni fyddan nhw’n mesur nac yn cofnodi faint o ddŵr y mae eiddo unigol yn ei ddefnyddio.

Pa waith fydd yn cael ei wneud?

Byddwn yn gosod mesuryddion bychain sy’n cael eu pweru gan fatri y tu mewn i siambrau carthffosiaeth dethol. Bydd yr offer yn cael ei osod yn ddiogel yn y siambr. Gall y mesuryddion gael eu gosod yn gyflym, yn dawel, ac o fewn ychydig funudau fel arfer.

Ni fydd unrhyw effaith ar eich gwasanaethau dŵr gwastraff

Pan fo’n bosibl, rydym yn ceisio osgoi gweithio ar dir preifat. Fodd bynnag, pan fo rhaid gwneud, rydym yn cysylltu â chwsmeriaid ymlaen llaw a bydd y gwaith yn cael ei wneud gan darfu cyn lleied ag sy’n bosibl.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Gall cwsmeriaid Dŵr Cymru ddisgwyl y canlynol:

  • Dim angen gwneud unrhyw beth – mae'r mesuryddion yn gweithredu'n annibynnol
  • Byddwn yn tarfu prin ddim arnoch – gellir gosod y mesuryddion yn gyflym ac yn ddidrafferth
  • Offer na fyddwch yn sylwi arno – mae’r mesuryddion yn dawel a ni fyddan nhw’n weladwy
  • Parch at eich eiddo – bydd mynediad yn cael ei reoli'n ofalus ac yn cael ei gyfathrebu'n glir

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae Gwasanaethau Cwsmeriaid Dŵr Cymru yn barod i’ch helpu.