Neidio i’r cynnwys

Pen Llŷn


Newyddion da! Rydyn ni’n buddsoddi yn yr rhwydwaith dŵr yfed yn Pen Llŷn. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad mwy dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn ni’n gweithio mewn nifer o wahanol ardaloedd yn Pen Llŷn gan gynnwys Bryncir, Chwilog, Cilan a Llangengan a’r ardaloedd cyfagos.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn?

Un o’r prif bethau a wnawn yn Dŵr Cymru yw ceisio darparu cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf ar eich cyfer bob tro y byddwch chi’n troi’r tap. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i wneud hyn, rydyn ni’n buddsoddi i uwchraddio’r pibellau dŵr yn eich cymuned. Bydd y gwaith hanfodol yma’n helpu i wella’r rhwydwaith dŵr yfed yn eich ardal ac yn cadw’r dŵr yn llifo.

Ymhle byddwn ni’n gweithio?

Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau diogelwch ein cyflenwadau ac yn lliniaru’r problemau o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel sy’n effeithio ar rai cwsmeriaid yn yr ardal ar hyn o bryd. Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol fel y gallwn gwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl, ac yn gwneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch.

Gallwch weld lle byddwn ni’n gweithio a chael diweddariadau rheolaidd am y gwaith trwy ddilyn yn eich ardal a chwilio dan eich cod post.

Pryd byddwn ni’n cyflawni’r gwaith?

Mae’r gwaith yn ardaloedd Llanengan a Bryncir wedi’i gynllunio i ddechrau ym mis Hydref 2026, gyda gwaith yn ardaloedd Cilan a Chwilog i ddilyn wedyn. Os bydd popeth yn mynd yn ôl y cynllun, rydym yn gobeithio cwblhau’r prosiect erbyn diwedd haf 2027.

Nodwch, y gall dyddiadau newid oherwydd amgylchiadau sydd tu hwnt I’n rheolaeth. Oherwydd hyn, ni allwn roi dyddiadau pendant ar gyfer pob cam o’r gwaith ar hyn o bryd. Byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd wrth i’r prosiect fynd ymlaen, ac rydym yn annog i drigolion lleol gadw llygad ar ein gwefan Yn Eich Ardal. Cofiwch glicio i'n dilyn ar y dudalen er mwyn derbyn hysbysiadau bob tro y bydd y dudalen yn cael ei diweddaru.

Ein contractwyr

Byddwn ni’n gweithio gydag M Group i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:00yb a 17:30yp, ond mae’n bosibl y bydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau hefyd er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.

Eich dŵr

Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu dim ar eich cyflenwad dŵr. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi trwy anfon neges destun ar y diwrnod.

Cofiwch sicrhau bod gennym rif ffôn poced neu gartref cyfredol ar gyfer eich aelwyd. Gallwch ddilysu hyn a diweddaru eich manylion trwy gysylltu â ni trwy sgwrs fyw ar ein gwefan neu ffonio ein rhif cyswllt 24 awr ar 0800 052 0130.

Traffig

Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a bydd angen cau ffyrdd neu godi goleuadau traffig dros dro er mwyn cadw ein tîm yn ddiogel yn ystod y gwaith. Os oes angen i ni gau ffordd, byddwn ni’n sicrhau bod yna ddigon o arwyddion i gyfeirio modurwyr, ac fe wnawn ein gorau glas i gwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallwn ni ac ail-agor y ffordd.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnawn ein gorau i darfu cyn lleied â phosibl arnoch, a byddwn ni’n rhannu diweddariadau rheolaidd â manylion y ffyrdd sydd ar gau ar ein tudalen Facebook a’n yn eich ardal.

Wrth i ni weithio mewn ardal benodol, hwyrach na fyddwch chi’n ein gweld ni’n gweithio bob dydd, ond gallwn eich sicrhau chi ein bod ni’n parhau i weithio y tu ôl i’r llenni yn profi ac yn samplo’r dŵr yn y pibellau newydd, a allai gymryd ychydig ddiwrnodau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein tîmau safle yn gweithio mewn ardaloedd gwahanol, a byddan nhw’n dychwelyd i gwblhau’r gwaith ar ôl cael canlyniadau’r profion.