Neidio i’r cynnwys

Pibell garthffosiaeth Marlas


Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn pryderu am y problemau diweddar sy'n effeithio ar Afon Cynffig yn dilyn nam ym mhrif bibell garffosiaeth Marlas ger Port Talbot. Mae'n ddrwg gennym am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar gymunedau lleol a'r amgylchedd, ac rydym am eich diweddaru am y gwaith sy'n digwydd i wella'r sefyllfa.

Beth ddigwyddodd?

Dirywiodd cyflwr prif bibell garffosiaeth Marlas yn gynt o lawer na’r disgwyl, gan achosi byrstiau a gollyngiadau sydd wedi effeithio ar Afon Cynffig. Yn Ebrill 2026, cyhoeddwyd Digwyddiad Aur yn sgil yr anhawster cynyddol i reoli’r effaith ar Afon Cynffig.

Ein mesur cyntaf oedd defnyddio mwy nag 20 o danceri i dynnu dŵr gwastraff o’r rhwydwaith a lleihau’r pwysau ar y system. Er i hyn helpu i reoli’r broblem uniongyrchol oedd yn ein hwynebu ni, mesur dros dro yn unig oedd hwn.

Er mwyn helpu i reoli’r sefyllfa a sicrhau iechyd yr afon, rydym wedi cyflawni nifer o gamau byrdymor mewn ymdrech i leihau’r effaith ar Afon Cynffig. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Gosod proses trin dŵr gwastraff dros dro yng Ngorsaf Bwmpio Marlas er mwyn i ddŵr gwastraff gael ei drin ar y safle.
  • Cludo carffosiaeth mewn tanceri o orsafoedd pwmpio i fyny’r biben er mwyn helpu i leddfu’r pwysau ar Orsaf Bwmpio Marlas.
  • Cyflwyno offer awyru ychwanegol i gefnogi Afon Cynffig, gyda’r system awyru agosaf at ein pwynt rhyddhau yn gweithredu 24/7.

Er mwyn helpu i liniaru’r effaith wrth i ni gyflawni ein gwaith buddsoddi hirdymor, rydym wedi gosod 4.9km o bibellau dros dro ar y tir a fydd yn cludo’r dŵr gwastraff i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Afan i gael ei drin. Mae hyn yn golygu y bydd holl lifoedd y dŵr gwastraff yn mynd trwy’r pibellau newydd i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Afan, ac o ganlyniad, ni fydd y llifoedd yn effeithio ar Afon Cynffig bellach. 

Buddsoddiad Hirdymor

Er mwyn mynd at wraidd y broblem, rydym yn buddsoddi £13 miliwn er mwyn newid 6km o’r brif bibell garthffosiaeth gyfredol ar draws ardal Cynffig a Phort Talbot. Bydd y buddsoddiad yma’n helpu i:

  • Wneud y rhwydwaith yn fwy gwydn
  • Lleihau’r risg o ddiffygion yn y dyfodol
  • Amddiffyn yr amgylchedd yn well ar gyfer y tymor hir

Bydd y bibell dros dro ar y tir aros yn dal i weithio nes ein bod wedi cwblhau ein gwaith buddsoddi £13 miliwn. 

Rydym hefyd yn datblygu cynlluniau i adfer 3km arall o'r bibellau lle mae dirywiad ychwanegol wedi'i nodi a fydd yn golygu y bydd y brif bibell dŵr gwastraff gyfan yr effeithiwyd arni gan y digwyddiad hwn yn cael ei uwchraddio yn y pen draw.

Afon Cynffig

Rydym yn cydnabod bod gwaith sylweddol i'w wneud er mwyn gwella iechyd Afon Cynffig. Dyna pam rydym yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru (SEWRT) i ddatblygu cynllun adfer, fel y gallwn adfer a gwella Afon Cynffig yn dilyn y digwyddiad hwn. Mae gan SEWRT brofiad helaeth o adfer afonydd a rheoli dalgylchoedd ledled De-ddwyrain Cymru, sy’n eu rhoi mewn sefyllfa dda i helpu i ddatblygu cynllun adfer sydd wedi'i seilio ar arbenigedd amgylcheddol lleol.

Bydd SEWRT yn ymgysylltu â'r gymuned leol i rannu eu canfyddiadau a deall blaenoriaethau lleol yn well. Bydd y dull cydweithredol hwn yn helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella a llywio datblygiad syniadau adfer yn y dyfodol, a fydd yn ei dro yn llywio'r argymhellion ar gyfer y Cynllun Adfer Afonydd.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Rydym wedi bod yn rhannu diweddariadau gyda chwsmeriaid, grwpiau lleol a rhanddeiliaid trwy gylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol a'r adran Yn Eich Ardal ar ein gwefan, a byddwn yn parhau i roi gwybodaeth reolaidd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Rydym yn deall faint o bryder mae'r sefyllfa hon wedi ei achosi i bobl leol ac mae'n ddrwg gennym am yr aflonyddwch a'r effaith amgylcheddol y mae wedi'i achosi. Mae ein timau'n gweithio'n galed i wella'r sefyllfa a sicrhau ateb hirdymor i'r gymuned a'r afon.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein datblygiadau ar y safle drwy ymweld ag Yn Eich Ardal.