Buddsoddiad Castellnewydd, Mynwy
Rydyn ni’n buddsoddi £1 miliwn yn rhwydwaith dŵr Castellnewydd, Mynwy. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn?
Pob nawr ac yn y man, mae angen i ni gyflawni gwaith ar y rhwydwaith dŵr er mwyn sicrhau y gallwch barhau i gael cyflenwad dŵr o’r safon uchaf pob tro y byddwch chi’n troi’r tap. Mae rhai o’n pibellau sy’n cludo’r dŵr ar gyfer eich cawod a’ch paned boreol dros 100 mlwydd oed erbyn hyn. Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod i ddiwedd eu hoes weithredol, bydd y buddsoddiad yn yr ardal yn ein gweld ni’n adnewyddu tua 3134m o brif bibellau dŵr yng Nghastellnewydd, Mynwy. Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol fel y gallwn gwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl gan wneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch lle bo modd.
Rydyn ni’n buddsoddi £1 miliwn er mwyn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid a lliniaru’r problemau y mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel.
Byddwn ni’n cyflawni’r gwaith ar draws Castellnewydd, Mynwy a’r ardaloedd cyfagos o ddechrau Mawrth 2026 ymlaen, a chaiff ei gwblhau erbyn Awst 2026.
Ein contractwyr
Byddwn ni’n gweithio gyda OCU Group a’u cadwyn gyflenwi i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 4pm, ond mae’n bosibl y bydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau hefyd er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.
Eich dŵr
Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu dim ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi trwy anfon neges destun ar y diwrnod.
Y cynllun rheoli traffig
Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o oleuadau dwy, tair a phedair ffordd er mwyn cadw’r traffig yn symud. Mae’n bosibl y bydd yna adegau pan fyddwn ni’n gweithio’n union y tu allan i eiddo cwsmeriaid hefyd, a bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yng nghyffiniau’r gwaith. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffyrdd cyn gynted ag y gallwn ni.
Yn Eich Ardal
I gael diweddariadau ar sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen, ewch i’n tudalen Yn Eich Ardal chi yma.