Neidio i’r cynnwys

Lôn Glan Môr, Hirael


Rydym yn buddsoddi dros £14 miliwn i helpu gwella ansawdd dŵr y Fenai. Yma, cewch wybod mwy am y gwaith y byddwn yn ei wneud ar y rhwydwaith dŵr gwastraff yn eich ardal chi a sut y gall y gwaith effeithio arnoch.

Pam y byddwn yn gwneud y gwaith hwn?

Mae carthffosydd ym Mangor yn garthffosydd cyfun, sy'n golygu bod dŵr gwastraff o geginau a thoiledau yn cael ei gario gan yr un pibellau â dŵr glaw to a ffyrdd.

Yn ystod glaw trwm, mae'r dŵr wyneb a'r dŵr gwastraff ychwanegol yn cael ei storio mewn tanc storm, yn ein gorsaf bwmpio Lôn Glan Môr, fodd bynnag, yn ystod glawiad sylweddol, pan fydd y tanc hwn yn llawn ac yn methu â chymryd mwy, mae'r dŵr yn llifo allan o'r bibell gorlif storm i mewn i'r bae. Mae'r gorlif storm hwn yn ei le i atal y rhwydwaith rhag gorlifo mewn i gartrefi a busnesau ym Mangor.

Er mwyn helpu i ddiogelu’r amgylchedd lleol a dŵr y Fenai, sy’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Y Fenai, byddwn yn gwneud gwaith i helpu i leihau’r nifer o weithiau mae’r gorlif storm yn cael ei ddefnyddio’n flynyddol. Un ffordd o wneud hyn fyddai gwahanu dŵr wyneb a dŵr gwastraff yr ardal ond byddai hyn yn golygu tyllu rhan fwyaf o’r ffyrdd ym Mangor a fyddai’n amharu’n fawr ar drigolion a busnesau’r ddinas a byddai’n cymryd sawl blwyddyn.

Ffordd arall, llawer llai aflonyddgar, yw adeiladu tanc storio tanddaearol mawr a fydd yn dal llif yn ôl yn ystod glaw trwm ac yna'n rhyddhau'r dŵr yn ôl i'r system yn araf pan fydd digon o le. Dyma beth rydyn ni'n bwriadu ei wneud yn Lôn Glan Môr.

Sut yr ydym yn gwneud y gwaith?

Byddwn yn gosod tanc storio mawr o dan y cae pêl-droed ar Lôn Glan Môr. Gan y bydd angen lle i'r peiriannau a man storio hefyd, byddwn yn defnyddio'r rhan fwyaf o'r cae pêl-droed a'r glaswellt yn ystod ein gwaith.

Mae Byw’n Iach (Cyngor Gwynedd) sy’n berchen ar y cae pêl-droed wedi rhoi caniatâd i ni wneud y gwaith ar y safle, ac i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r cae i gyflawni’r gwaith. Unwaith y byddem wedi gorffen y gwaith, byddwn wrth gwrs yn rhoi popeth yn ôl fel yr oedd.

Fel y gallwn gael mynediad i'r safle, bydd angen creu mynedfa newydd i'r cae pêl-droed. Mae hyn yn golygu y byddwn yn creu mynedfa dros dro o Lôn Glan Môr i'r cae pêl-droed.

Ar ôl i ni osod y tanc a gorffen y gwaith, byddwn wedyn yn ei orchuddio â glaswellt ac yn ail-farcio’r cae pêl-droed fel ei fod yn cael ei dychwelyd yn ardal laswelltog i bobl ei fwynhau unwaith eto.

Er mwyn i’n tîm allu cynnal a chadw’r tanc ar ôl i ni orffen y gwaith, bydd angen i ni greu trac wrth ymyl y cae a bydd rhai gorchuddion tyllau archwilio ar gyrion y cae chwarae.

Title here

Cymorth arall sydd ar gael i chi

Weithiau, mae angen ychydig bach o gymorth ychwanegol ar ein cwsmeriaid. Boed hi’n ffeindio ffordd o arbed arian ar eu biliau misol, trwsio toiled sy’n gollwng neu eu cofrestru ar gyfer ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth, r’yn ni yma i helpu. Mae manylion rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael i chi yma.

Cwestiynau Cyffredin