Neidio i’r cynnwys

Rasa


Rydyn ni’n buddsoddi £3.9 miliwn yn rhwydwaith dŵr Rasa. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad dibynadwy o ddŵr diogel a glân yn yr ardal am ddegawdau i ddod.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn?

Mae rhai o’r pibellau sy’n helpu ein cwsmeriaid i fwynhau eu cawod foreol a phaned o de dros 100 mlwydd oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn cronni yn y pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, bob nawr ac yn y man mae angen i ni lanhau’r pibellau er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhydd.

Rydyn ni’n buddsoddi £3.9 miliwn er mwyn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid ac i geisio lliniaru’r problemau o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel sy’n effeithio ar rai cwsmeriaid yn yr ardal.

Beth mae’r gwaith yn ei olygu?

Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod at ddiwedd eu hoes weithredol, bydd y buddsoddiad yn yr ardal hon yn cynnwys adnewyddu tua 2km o bibellau dŵr a dadgomisiynu 2.5km.

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid, ac mae’n debygol na fyddan nhw hyd yn oed yn sylwi ar y gwaith yn cael ei wneud, ond byddwn ni’n ysgrifennu at unrhyw gwsmeriaid y gallai’r gwaith effeithio arnynt er mwyn rhannu’r holl wybodaeth angenrheidiol.

Ble a phryd bydd y gwaith yn digwydd?

Bydd y gwaith yn dechrau tua diwedd Ebrill 2023 a bydd yn digwydd ar draws ardal Rasa. Os bydd y cyfan yn mynd yn ôl y bwriad, byddwn wedi cwblhau’r gwaith erbyn diwedd Ebrill 2024. Byddwn ni’n gweithio ar Reservoir Road, Honeyfield Road, Prince Phillip Avenue, Greenfield Crescent, James Row, yr A4047 sy’n arwain at Allotment Road, Badminton a College Road.

Gallwch weld ymhle y byddwn ni’n gweithio trwy glicio ar y map isod:

Dylid nodi bod ein mapiau’n dangos lleoliad y pibellau dŵr y byddwn ni’n eu huwchraddio gan ddefnyddio gwahanol dechnegau. Nid yw hynny’n golygu y byddwn ni’n tyllu yn eich stryd, ond os oes angen i ni gyflawni gwaith yn eich stryd, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.

Ein contractwyr

Byddwn ni’n gweithio gyda Morrison Water Service a’u cadwyn gyflenwi i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7.30am a 5.30pm, ond bydd yna adegau pan fydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.

Eich dŵr

Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith effeithio dim ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu’ch cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n anfon neges destun atoch ar y diwrnod.

Y cynllun rheoli traffig

Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o oleuadau dwy ffordd a phedair ffordd i gadw’r traffig yn llifo. Ond mae hi’n bosibl y bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn union y tu allan i eiddo unigol, a bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yn ardal y gwaith yn ystod y cyfnodau hynny. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffyrdd cyn gynted ag y gallwn ni.