Cwestiynau Cyffredin
Rydyn ni’n cyflawni’r gwaith yma ar ran datblygiad tai Plasdŵr, a’i nod yw helpu i reoli’r cynnydd yn y llif o garthffosiaeth rydym yn ei ddisgwyl wrth i’r datblygiad barhau. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â’r awdurdod lleol a’r datblygwr er mwyn sicrhau bod gan rwydwaith carthffosiaeth Caerdydd y capasiti i allu delio â’r cynnydd yn y llif, ac er mwyn lleihau’r risg o ddiffygion ar y rhwydwaith ar gyfer y gymuned ehangach.
Mae ein gwaith yn cynnwys cysylltu’r bibell garthffosiaeth sy’n rhedeg o Danescourt i bwynt cyswllt yr ochr draw i afon Taf.
Trwy gydweithio’n agos â’n dylunwyr a’r awdurdod lleol, cytunwyd taw’r ateb gorau i reoli’r llif ychwanegol fyddai adeiladu gorsaf bwmpio ym Mharc Hailey y bydd y bibell garthffosiaeth yn cysylltu â hi. Cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer yr orsaf bwmpio yma ym mis Hydref 2021 a rhoddwyd caniatâd ym mis Medi 2022.
Yn rhan o’n gwaith, rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r awdurdod lleol a’r datblygwr er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti ar rwydwaith carthffosiaeth Caerdydd i allu delio â’r cynnydd yn y llif a ddisgwylir wrth i’r datblygiad barhau ac er mwyn lleihau’r risg o ddiffygion ar y rhwydwaith ar gyfer y gymuned ehangach. Rydyn ni wedi canfod bod digon o gapasiti ar y rhwydwaith carthffosiaeth yn Ystum Taf i ni drosglwyddo rhywfaint o’r llif i’r rhwydwaith yna, a chaiff ei gludo ymlaen wedyn i gael ei drin yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Yn rhan o’r broses yma, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau y gallwn glustnodi’r ateb gorau i ddarparu ar gyfer y safle, heb niweidio’r amgylchedd lleol na’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardal.
Caiff yr holl lif arall ei fwydo i’r rhwydwaith a’i gludo ymlaen i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Rhostir Cog yn Ninas Powys.
We were planning to start our work in Hailey Park and Danescourt this month (February 2023). However, due to a number of outstanding issues and the close proximity of the bird-nesting season, we are now planning to begin work on site in September. We will continue with our preparations and keep the construction timetable under review. As soon as a new start date is confirmed we will let local residents and stakeholders know.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan ddatblygwyr tai Plasdŵr.
O ran datblygiad Plasdŵr, bydd angen tynnu’r dŵr wyneb cyn i unrhyw lif o ddŵr budr gael ei ryddhau o safle’r datblygiad dros ben yr hyn y cafwyd cydsyniad i’w ryddhau i’r garthffos gyhoeddus yng nghyffiniau uniongyrchol y safle. Datblygwr y tai sy’n ariannu’r gwaith yma, ac fel rheol mae’n cynnwys dargyfeirio dŵr wyneb, neu unrhyw lif sy’n draenio oddi ar briffyrdd sy’n mynd i’r system garthffosiaeth gyhoeddus gyfunol ar hyn o bryd, i allfeydd amgen fel systemau dŵr wyneb pwrpasol, cyrsiau dŵr a chwlferti.
Rydyn ni wedi bod yn datblygu amrywiaeth o gynlluniau posibl i dynnu dŵr wyneb o fewn y dalgylch er mwyn gwrthbwyso’r llif dŵr budr newydd fydd yn dod o safle’r datblygiad. Mae nifer o’r cynlluniau hynny’n cael eu hasesu ar hyn o bryd er mwyn pwyso a mesur eu hyfywedd a’u dethol, a byddwn ni’n rhannu rhagor o fanylion pan fydd mwy o sicrwydd gennym pa gynlluniau y byddwn ni’n eu datblygu. Bydd y cynlluniau hyn yn gwella deilliannau amgylcheddol ac ni fyddant yn achosi unrhyw effeithiau amgylcheddol.
Rydym yn ymwybodol o’r Adolygiad Barnwrol gyda Chyngor Caerdydd sy’n herio eu penderfyniad. Ond, mae ein caniatâd cynllunio ni’n parhau, ac, yn amodol ar Dŵr Cymru’n cwblhau’r amodau yn y caniatâd cynllunio, fe all y gwaith ddechrau.
Clos De Braose, Danescourt
Rydyn ni wedi edrych ar amryw o atebion i'n galluogi i reoli llif ychwanegol y garthffosiaeth o ddatblygiad Plasdŵr. Lle bo modd, a lle bo digon o gapasiti, bydd yr eiddo newydd yn cysylltu â'n carthffosydd cyfagos. Lle nad yw hynny’n hyfyw, yr unig opsiwn dilys yw trosglwyddo’r llif i un o’n prif garthffosydd cyfredol sy’n cludo’r llif i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd. Mae angen i ni groesi’r rheilffordd rhwng Caerdydd a Radyr ac afon Taf, ac rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â Thrafnidiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn hynny o beth. Penderfynwyd taw’r unig leoliad addas i wneud hyn o ystyried y technegau Peirianneg Sifil y bydd angen eu defnyddio yw’r ardal y tu ôl i Glos De Braose.
Mater i’r awdurdod cynllunio lleol yw cynnwys y Cynllun Datblygu Lleol (LDP). O safbwynt cwmni dŵr a charthffosiaeth, mae sut mae safle datblygiad yn cael ei wasanaethu’n rhywbeth sy’n digwydd ar ôl cyhoeddi’r LDP, pan fo’r datblygwr yn dangos diddordeb yn y tir ac yn gwneud cais am Ganiatâd Cynllunio Amlinellol.
Bydd angen llwybr parhaol arnom i gyrraedd ein hasedau yn achos digwyddiad gweithredol yn sgil y gwaith. Rydyn ni’n cynnig felly lleihau maint y trac cyfredol o bum metr o led i dri, yn ogystal â chyfoethogi’r ardal trwy blannu rhagor o goed a blodau gwyllt. Amlinellir ein cynnig yn hynny o beth ar y plan isod a byddwn ni’n dilyn y broses angenrheidiol i gael caniatâd cyn gwneud hyn.
Rydyn ni wrthi’n trafod ein hopsiynau diogelwch gyda’r tîm gweithrediadau, ond bydd rhyw fath o gyfyngiad ar waith ar ben y trac mynediad er mwyn atal cerbydau modur rhag dod i’r ardal.
Nac oes, ni fydd unrhyw orlif yn mynd i afon Taf yn sgil y gwaith yma.
Parc Hailey
Lle bo modd, a lle bo digon o gapasiti, bydd yr eiddo newydd yn cysylltu â'n carthffosydd cyfagos. Lle nad yw hynny’n hyfyw, yr unig opsiwn dilys yw trosglwyddo’r llif i un o’n prif garthffosydd cyfredol sy’n cludo’r llif i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Fel arfer, mae ein rhwydwaith yn dibynnu ar ddisgyrchiant i’r gwastraff lifo o gartrefi a busnesau i’n carthffosydd. Ond mewn ardaloedd tir isel - fel Parc Hailey - mae angen i ni bwmpio’r dŵr gwastraff i fyny i’r rhwydwaith. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni adeiladu gorsaf bwmpio newydd a fydd yn pwmpio'r garthffosiaeth i fyny i'r rhwydwaith carthffosiaeth cyfredol er mwyn ei chludo ymlaen i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Dewiswyd lleoliad yr orsaf bwmpio yn seiliedig ar leoliad ein pibellau carthffosiaeth a lle bo tir addas ar gael.
Rydyn ni’n disgwyl gweld cynnydd yn llif y garthffosiaeth yn rhwydwaith dŵr gwastraff Caerdydd wrth i'r datblygiad dyfu. Bydd rhywfaint o'r llif yn teithio i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd ar Rover Way. Felly mae angen i ni sicrhau bod y rhannau o'r rhwydwaith lle mae digon o gapasiti – fel Ystum Taf – yn gallu cludo'r llif er mwyn lleihau'r risg o’r rhwydwaith yn methu gan daro’r gymuned ehangach. Dyma’r ateb lleiaf trafferthus, nid yn unig i’r ardal leol, ond i gymuned ehangach Caerdydd hefyd.
Bydd yr orsaf bwmpio 24 metr wrth 21 metr. Bydd y pympiau eu hunain 20 metr o dan y ddaear, a bydd gorchudd concrit ar lefel y ddaear.
Bydd yna giosg 3 metr o daldra, a bydd y ffens 2.4 metr o daldra’n amgylchynu’r safle. Bydd y ffens yn wyrdd ac fe'i dyluniwyd i geisio asio i dirwedd y safle. Cafodd ei dewis â golwg ar ddiogelu ein hasedau hefyd. Fodd bynnag, rydyn ni'n agored i ystyried atebion eraill er mwyn gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y safle'n asio i’w amgylchedd.
Nid yw'r ddeddfwriaeth yn mynnu ein bod ni'n cyflwyno cais cynllunio ar gyfer yr asedau sydd o dan y ddaear.
Cyflawnwyd Asesiad o Effeithiau Ecolegol yn rhan o'r cais cynllunio. Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys nifer o gynigion lliniaru, a'r casgliad oedd ei bod hi'n annhebygol y caiff y datblygiad arfaethedig effaith negyddol ar y derbynyddion ecolegol ar y safle ac yn yr ardal leol.
Y farn yw y bydd bioamrywiaeth y safle’n cael ei chynnal ar lefel sy’n gyson â swyddogaethau'r ecosystem. Ni fydd yna golledion net o ran prysgwydd o fewn y safle am y caiff rhywogaethau o brysgwydd brodorol eu hailblannu yno. Byddwn ni’n cynyddu amrywiaeth a chyflwr y prysgwydd a'r cynefinoedd glaswelltir a gedwir ac a grëir o fewn y safle trwy blannu rhywogaethau brodorol cyfoethog, a chânt eu diogelu trwy reoli a monitro cynefinoedd yn y tymor hir.
Yn rhan o ddyluniad ein tirwedd, rydyn ni'n bwriadu adfer yr ardal gan ddefnyddio'r canlynol:
- Y glaswellt sydd yno eisoes yno â gweirglodd ecolegol gyfoethog
- Cymysgedd o brysgwydd brodorol
- Dôl blodau gwyllt
- Coed
Am fanylion cliciwch yma.
Defnyddir y trac mynediad cyfredol (i'r ystafelloedd newid) i gyrraedd lleoliad yr orsaf bwmpio oddi ar Ffordd Tŷ Mawr. Bydd yr holl draffig gwaith yn teithio trwy’r Eglwys Newydd, ar hyd Ffordd Felindre a Ffordd Tŷ Mawr.
Byddwn ni'n adeiladu'r ffordd fynediad o fewn safle'r orsaf bwmpio gan ddefnyddio strwythur grid sy'n caniatáu ar gyfer draenio ac i’r glaswellt dyfu trwy'r celloedd – bydd hyn yn helpu i leihau faint o goncrit sydd ei angen.
Ydyn, ar bob cam yn y broses gynllunio a dylunio, rydyn ni wedi bod yn cydweithio'n agos â chwmni Arup a'u hadnoddau ecolegol.
Yn rhan o'n gwaith, bydd angen i ni glirio rhywfaint o'r llystyfiant a'r coed er mwyn creu amgylchedd gwaith diogel. Caiff hyn ei gyflawni fis Chwefror, ac rydyn ni'n gweithio gydag ecolegydd a Chyngor Caerdydd i wneud hyn.
Rydyn ni wedi datblygu rhaglen ailblannu gynhwysfawr sy'n cynnig cyfle i hybu gwerth yr amgylchedd lleol. Caiff hyn ei gyflawni ar ôl i ni gwblhau'r gwaith. Am fanylion cliciwch yma.
Ystyriwyd effeithiau llifogydd, ac mae'r canlyniadau wedi llywio ein dewis o ddeunyddiau i leihau'r risg o lifogydd yn y parc o ganlyniad i'n gwaith. Mae rhagor o fanylion am hyn yn adran “5.6 Effeithiau Llifogydd“ y llythyr y cais cynllunio y gallwch ei ddarllen ar y porth cynllunio
Lle bo modd, caiff yr holl gynefinoedd a gedwir ac a grëir ar y safle eu cyfoethogi at ddibenion bioamrywiaeth. Bydd hyn yn cynnwys gosod pum blwch adar a phum blwch ystlumod i'r gogledd i'r safle, a gosod tŷ pryfed a thŷ draenogod o fewn y safle ger yr ardaloedd prysg.
Cynigir gosod tri chiosg ar y safle; y cyntaf i reoli'r pympiau, yr ail i gynnwys y cyflenwad dŵr yfed, a'r trydydd i gynnwys generadur wrth gefn a fydd yn cadw'r orsaf bwmpio'n rhedeg mewn argyfwng yn achos toriad yn y pŵer.
Dewiswyd y deunydd plastig ar gyfer y ciosgau i ddiwallu'r gofynion dylunio, adeiladu a diogelwch a bennwyd yn y ddeddfwriaeth.
Fe wnawn ni'n gorau glas i gadw'r llwybrau mynediad cyhoeddus yn agored wrth gyflawni ein gwaith – mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau fel yr ystafelloedd newid ger Heol Tŷ Mawr. Fodd bynnag, er diogelwch y cyhoedd ar led, fe fydd yna wyriadau'n gweithredu ar adegau yn ystod ein gwaith. Byddwn ni'n cyfleu ffurf y rhain yn nes at yr amser pan fyddwn ni'n barod i ddechrau adeiladu'r orsaf bwmpio.
Dyluniwyd yr orsaf bwmpio yn ôl safonau cenedlaethol â'r nod o ddileu sŵn a drewdod. Lleolir ein pympiau 20 metr o dan y ddaear â siafft concrit caeedig. Yr unig ased ar ben y ddaear a allai achosi rhywfaint o sŵn yw'r generadur pŵer wrth gefn, a fydd yn gweithio yn achos toriad lleol yn y pŵer yn unig.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan ddatblygwyr tai Plasdŵr.
Ystyriwyd nifer o wahanol opsiynau yn ystod y camau dylunio a chynllunio, ond cafodd y rhain eu diystyru yn y pendraw oherwydd eu hyfywedd a'r ffaith y byddent yn tarfu'n sylweddol ar Gaerdydd ar led.
Yn rhan o’r broses hon, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod ni’n dod o hyd i'r ateb gorau i ddarparu ar gyfer y safle, heb niweidio’r amgylchedd lleol na’r gwasanaeth a darparwn ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardal.
Cyngor Caerdydd sydd biau'r darn o dir ym Mharc Hailey lle'r ydyn ni'n cynnig cyflawni'r gwaith.
Er mwyn diolch i’r gymuned, byddwn ni’n lansio cronfa gymunedol o £10,000 yn Ionawr 2023. Bydd y grant ar gael i grwpiau neu sefydliadau cymunedol lleol fel ffordd o ddiolch iddynt am eu hamynedd wrth i ni gyflawni ein gwaith. Mae rhagor o fanylion yma ar y brif dudalen.
Dyluniwyd yr orsaf bwmpio i fod mor fach â phosibl wrth ganiatáu i'n tîm gweithredol gyrchu'r asedau at ddibenion cynnal a chadw, gan greu amgylchedd diogel ar gyfer defnyddwyr y parc.
Defnyddir y trac mynediad cyfredol i'r ystafelloedd newid ger Ffordd Tŷ Mawr i gyrraedd lleoliad yr orsaf bwmpio. Bydd mwy o draffig nag arfer yn teithio yn yr ardal yn ystod y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, bydd hyn yn bennaf ar ddechrau ac ar ddiwedd y prosiect wrth i ni osod a datgomisiynu ein safle gwaith. Pan fydd y gwaith adeiladu wedi dechrau, bydd llai o gerbydau’n mynd a dod. Ni fydd cannoedd o gerbydau’n mynd a dod bob dydd.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, nid ydym yn rhagweld y bydd angen newid y trefniadau diogelwch. Bydd cerbydau cynnal a chadw Dŵr Cymru'n ymweld â'r safle'n achlysurol, ond ni fydd hynny'n beth rheolaidd.
Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r holl randdeiliaid angenrheidiol er mwyn cadw’r parc yn lle diogel i bawb ei fwynhau wrth i ni gyflawni ein gwaith. Ar ôl adeiladu’r orsaf bwmpio newydd, ni fydd yn effeithio dim ar ddarpariaeth y caeau rygbi. Fodd bynnag, fe fydd y broses o gyflawni’r gwaith yn effeithio ar un o’r caeau. Mae pawb o dan sylw’n ymwybodol o’r effaith a chytunwyd ar drefniadau amgen yn ystod y gwaith.