Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin
Rydyn ni wedi bod yn cyflawni ymchwiliadau ar y Gorlif Storm Cyfunol (CSO) ar lôn Pont-y-felin. Roedd y canlyniadau, o’u cyfuno â’n data modelu ansawdd dŵr, yn dangos y gallem wella’r CSO yma, ac y byddai hynny, yn ei dro, yn helpu i hybu ansawdd y dŵr yn Afon Lwyd.
Ar ôl asesu’r gwahanol opsiynau, clustnodwyd yr ateb yma sy’n seiliedig ar natur fel y dewis gorau er mwyn helpu i wella ansawdd dŵr yn yr afon, cyfoethogi’r amgylchedd lleol a darparu manteision cymdeithasol economaidd ar gyfer y gymuned gyfan.
Mae’r defnydd o welyau brwyn a gwlyptiroedd adeiledig wedi profi’n llwyddiannus wrth drin dŵr gwastraff. Maen nhw’n darparu proses hidlo naturiol er mwyn gwella ansawdd y dŵr sy’n cael ei ddychwelyd i’r afon eto fyth. Mae’n tynnu unrhyw gemegolion a maetholion diangen, fel amonia, nitrogen a ffosfforws, a hynny mewn ffordd naturiol. Yn y gorffennol, mae cwmnïau dŵr wedi tueddu i ddefnyddio atebion peirianegol iawn leihau neu ddileu’r maetholion hyn, ond erbyn hyn rydyn ni’n edrych ar atebion mwy naturiol i gynnig dewis amgen sy’n ddibynadwy ac yn garbon isel.
Mae’r cynlluniau a gynigir yn cynnwys cyfleoedd i gyfoethogi bioamrywiaeth yn yr ardal.
Yes, as part of our planning process we carried out an extensive noise assessment to establish the impact of our proposed plans and the mitigation measures in place to help reduce their impact. We do not anticipate any noise disruption to nearby properties or those enjoying the local area. You can read more about our assessment and how we reached this conclusion in the Noise Technical Note.
Ydyn, yn rhan o’n proses gynllunio, cyflawnwyd asesiadau helaeth o ddrewdod er mwyn canfod effaith ein cynlluniau arfaethedig a’r mesurau lliniaru y byddai eu hangen i helpu i leihau eu heffaith. Nid ydym ni’n disgwyl unrhyw ddrewdod o ganlyniad uniongyrchol i’n cynllun arfaethedig. Gallwch ddarllen rhagor am ein hasesiad a sut y daethom ni i’r casgliad hwn yn yr Asesiad o Ddrewdod.
Ydyn, yn rhan o’n proses cynllunio, cyflawnwyd asesiadau helaeth er mwyn canfod effeithiau ein cynlluniau arfaethedig ar yr amgylchedd, a lle bo modd, chwilio am gyfleoedd i gyfoethogi bioamrywiaeth o fewn yr ardal.
- Cliciwch yma i ddarllen ein Hasesiad o Effeithiau Amgylcheddol (HEA).
- Cliciwch yma i ddarllen ein Hasesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (ARhC).
Rydyn ni’n bwriadu cyfoethogi’r manteision hamdden y mae’r tir yn eu cynnig i’r gymuned leol, a sicrhau bod ein cynigion yn gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Trwy greu llwybrau a phwyntiau mynediad pwrpasol ar draws y safle a darparu ardaloedd addysgol, gallwn ganiatáu i’r gymuned fynd allan i’r awyr agored i ailgysylltu â’r amgylchedd prydferth o’u cwmpas a dysgu amdano.
Yr unig gerbydau fyddai’n cael mynd i’r safle fyddai cerbyd cynnal a chadw i gyflawni archwiliadau cyffredinol a gwaith cynnal a chadw ar ein hasedau, a bws mini bach ar gyfer cyfleoedd addysgol wedi eu trefnu ymlaen llaw. Ni chaniateir unrhyw gerbydau eraill ar y safle. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad.
Ydyn, rydyn ni wedi cyflawni Asesiad o Oblygiadau Llifogydd a ddaeth i’r casgliad na fyddai unrhyw effeithiau andwyol o ran llifogydd yn yr ardal. Cliciwch yma i ddarllen yr asesiad yma.
Pe baem ni’n cael caniatâd i gyflawni ein cynnig cyfredol, byddem yn disgwyl i’r datblygiad gymryd tua blwyddyn i’w adeiladu.
Na fydd, ni fyddai hyn yn effeithio dim ar eich gwasanaethau dŵr neu ddŵr gwastraff.