Neidio i’r cynnwys

Trap a Llandyfan


Rydyn ni’n buddsoddi dros £3 miliwn i wella’r rhwydwaith dŵr yn ardal Trap a Llandyfan. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.

Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid ac yn lliniaru’r problemau o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel y mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Beth fydd natur y gwaith?

Mae rhai o’n pibellau sy’n darparu’r dŵr ar gyfer cawod a phaned boreol ein cwsmeriaid dros 100 mlwydd oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn gallu cronni’r tu fewn i’r pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, pob nawr ac yn y man mae angen i ni glirio’r pibellau er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhwydd.

Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod i ddiwedd eu hoes weithredol, bydd ein buddsoddiad yn yr ardal hon yn ein gweld ni’n disodli 3.2km o bibellwaith i gyd.

Ymhle byddwn ni’n gweithio?

Bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar ym mis Mehefin 2024 ac rydyn ni’n disgwyl ei gwblhau erbyn gwanwyn 2025.

Gallwch weld ble fyddwn ni’n gweithio isod.

Trap and Llandyfan

Os bydd angen i ni weithio’r tu allan i’ch eiddo chi, byddwn ni’n sicr o gysylltu â chi’n uniongyrchol yn nes at yr amser, a byddwn ni’n diweddaru adran ‘Yn Eich Ardal’ ein gwefan er mwyn rhannu unrhyw gynlluniau penodol i reoli traffig.

Bydd gennym safle gwaith ac uned les yn y cae gyferbyn â Fferm Tir Goetre yn ystod y gwaith.

Fy nghyflenwad dŵr

Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi digon o rybudd i chi.

Cwestiynau cyffredin

Yn Eich Ardal

Mynnwch y newyddion diweddaraf

I gadw llygad am gyfleoedd eraill i siarad â’r tîm, ac am fanylion traffig a chau ffyrdd, ewch i Yn Eich Ardal a chwilio dan eich cod post.

Find out more