Rhaglen Cefnogi Gwyddoniaeth Dinasyddion
Rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad ac ymroddiad y cyhoedd, yn gofalu am ein hamgylchedd naturiol. Gall Gwyddoniaeth Dinasyddion gynnwys amrywiaeth mor eang o ffynonellau data ac rydyn ni’n cydnabod awydd ein cymunedau i eisiau helpu
Gall ddarparu gwybodaeth, gan gynnwys ffotograffau ac arsylwadau dros ardaloedd eang a llinellau amser hir. Gall ddarparu data samplu a dadansoddi data, gan nodi patrymau tueddiadau yn ogystal â rhannu data, gwella’r wybodaeth ehangach i helpu i nodi a chefnogi camau i wella ansawdd dŵr afonydd a diogelu’r amgylchedd lleol. Gall hefyd godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu o fewn cymunedau, gan gynyddu cyfleoedd addysg a chyfleoedd i gydweithio.
Gall Gwyddoniaeth Dinasyddion arwain at gyfleoedd a manteision niferus, ond er mwyn iddo fod o werth, mae angen i ni ystyried ansawdd y samplu, cysondeb yr wybodaeth, rhan rheoleiddwyr ac yn bwysig iawn, cynnal diogelwch y cyhoedd.
Er mwyn helpu i weithio tuag at hyn, rydyn ni’n cefnogi’r prosiect Catchment Systems Thinking Cooperative (CaSTCo) sy’n ceisio galluogi cymunedau lleol i gasglu data cadarn y mae modd ei rannu gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill, gan ganiatáu penderfyniadau yn y dalgylch sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd CaSTcO yn datblygu fframwaith cenedlaethol o adnoddau a hyfforddiant safonol. Rydyn ni wedi ymrwymo £250,000 i brosiect CaSTCo ac rydyn ni’n gweithio gyda Sefydliad Gwy ac Wysg ar dreial yn nalgylch afon Wysg sy’n dangos sut gall y gymuned amaethyddol gymryd rhan yng ngwyddoniaeth dinasyddion.
Yn y cyfamser, tra bod fframwaith ehangach yn cael ei ddatblygu, rydyn ni wedi lansio ein Rhaglen Cefnogi Gwyddoniaeth Dinasyddion.
Bydd y rhaglen hon ar sail ceisiadau, gydag arian ar gael ar gyfer prosiectau sy’n bodloni meini prawf ac sy’n cyd-fynd ag amcanion amgylcheddol ein cwmni. Bydd angen i grwpiau gael cefnogaeth sefydliad anllywodraethol amgylcheddol (eNGO) neu reoleiddiwr amgylcheddol, a fydd yn ymgeisio ar eu rhan, gan ddarparu arweiniad a goruchwyliaeth ar, ond heb fod yn gyfyngedig i, agweddau fel hyfforddiant, atebolrwydd a gofynion iechyd a diogelwch.
Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen wedi’i sicrhau tan 31 Mawrth 2025 a bydd yn galluogi grwpiau a sefydliadau gwyddoniaeth dinasyddion i wneud cais am hyd at £10,000 y prosiect mewn cyfnod o 12 mis. Mae cap ar faint o gyllid sydd ar gael bob blwyddyn a byddwn ni’n ystyried dyraniad teg ar draws ein hardal weithredol. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen hon petai’r cap hwn yn cael ei gyrraedd a bydd ceisiadau ar gyfer y flwyddyn honno’n cau. Byddwn ni’n cyhoeddi pan fydd ceisiadau’n cael eu hail-agor.
Gall gwybodaeth wedi’i chasglu helpu i nodi meysydd sydd angen rhagor o ymchwil, arolygu asedau ac o bosibl dylanwadu ar fuddsoddi ar raddfa fach. Byddwn ni’n ymdrechu i gefnogi a lle bo modd, gweithredu ar ganlyniadau lle mae adnoddau a rheoleiddio yn caniatáu hynny. Mewn meysydd lle mae angen dadansoddi, adnoddau neu ofynion rheoleiddio ychwanegol, byddwn ni’n ymdrechu i ddarparu gwybodaeth ynghylch sut y mae modd ymgorffori’r rhain yn ein proses Cynllunio Rheoli Asedau ehangach (AMP), e.e., mae anghenion buddsoddi ar raddfa fawr yn cael eu nodi ac i’w cytuno â’n rheoleiddwyr amgylcheddol ac OFWAT.
I ddysgu mwy o ran sut i wneud cais, gweler ein dogfen Rhaglen Cefnogi Gwyddoniaeth Dinasyddion – Canllawiau Ymgeisio.
Cais Gwyddoniaeth Dinasyddion
928.2kB, PDF
Rhaglen Cefnogi - Canllawiau Ymgeisio
105.2kB, PDF