Neidio i’r cynnwys

Gorlifoedd Storm Cyfun (CSOs)


Gorlifoedd Storm Cyfun - beth ydyn nhw a pham y mae eu hangen nhw arnom ni?

Mae gan y rhan fwyaf o’r DU system garthffosiaeth gyfun, sy’n golygu bod dŵr glaw a dŵr gwastraff (o doiledau, ystafelloedd ymolchi a cheginau) yn cael eu cario yn yr un pibellau i weithfeydd trin carthffosiaeth.

Pan fydd ein system garthffosiaeth yn gweithredu’n arferol, mae carthffosydd cyfun yn casglu dŵr glaw sy’n rhedeg oddi ar gwteri, draeniau a ffyrdd, yn ogystal â charthffosiaeth. Rydyn ni’n galw hwn yn ddŵr gwastraff, sydd wedyn yn cael ei gludo i’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff, lle mae’n cael ei lanhau, ei drin a’i ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd i afonydd neu’r môr.

Cafodd y rhan fwyaf o’r rhwydwaith dŵr gwastraff ei adeiladu dros 100 mlynedd yn ôl yn ystod Oes Fictoria, pe byddem yn dylunio system nawr, byddem yn ei gwneud yn wahanol iawn a byddai gennym bibellau ar wahân ar gyfer carthffosiaeth a dŵr glaw. Dyma sut mae datblygiadau tai newydd yn cael eu dylunio.

Yn ystod stormydd glaw trwm, mae mwy o ddŵr yn mynd i mewn i bibellau’r systemau ‘cyfun’ hŷn hyn nag y maent wedi’u cynllunio i ymdopi ag ef, felly maent wedi’u cynllunio i leddfu’r pwysau yn ddiogel drwy fannau rhyddhau - a elwir yn Orlifoedd Storm Cyfun. Mae Gorlifoedd Storm Cyfun yn rhyddhau’r llifoedd - tua 95% ohono’n ddŵr wyneb - i afonydd neu’r môr. Heb y mannau rhyddhau hyn, byddai’r system garthffosiaeth yn gorlenwi, ac yn achosi llifogydd carthion ar strydoedd, priffyrdd ac yn achosi i doiledau orlifo y tu mewn i eiddo.

Mae’n bwysig nodi bod Gorlifoedd Storm Cyfun wedi’u cynllunio i weithredu yn ystod glaw trwm, felly os ydyn nhw’n rhyddhau dŵr gwastraff yna mae unrhyw garthffosiaeth sy’n bresennol yn cael ei wanhau’n sylweddol gan ddŵr glaw a dŵr wyneb i mewn i ddyfroedd fydd hefyd yn gorlifo. Caiff gweithrediad ein Gorlifoedd Storm Cyfun ei reoleiddio’n llym ac mae ein rheoleiddwyr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei ganiatáu a’i fonitro.

Mae Gorlifoedd Storm Cyfun wedi bodoli erioed ar y rhwydwaith carthffosydd ac nid ydynt yn rhywbeth newydd. Mae’n bosibl eu bod yn rhyddhau mwy oherwydd ein bod yn cael stormydd yn amlach a hynny’n gysylltiedig â newid hinsawdd, yn ogystal â mwy o arwynebau anhydraidd fel palmentydd neu goncrit. Mae’r arwynebau hyn yn golygu bod mwy o ddŵr yn rhedeg i’r draeniau nag ymlaen i arwyneb amsugnol fel glaswellt.

Beth mae DCWW wedi’i wneud hyd yma?

Mae Dŵr Cymru wedi gosod mwy na 2,300 o offer monitro Gorlifoedd Storm Cyfun ers 2015. Nid oes unrhyw newid o bwys wedi bod mewn perfformiad ers hynny, ond mae eu gweithredu yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn gyda’r tywydd. Mae’r offer monitro’n dweud mwy wrthym ynghylch sut a phryd bydd ein Gorlifoedd Storm Cyfun yn gweithredu nag yr ydym erioed wedi bod yn ymwybodol ohono o’r blaen.

Mae rhai pobl yn gofyn pam nad oes modd cael gwared ar Orlifoedd Storm Cyfun o’r system yn llwyr. Er na fyddem yn adeiladu system garthffosiaeth gyfun heddiw, nid yw cael gwared ar Orlifoedd Storm Cyfun yn opsiwn. Yn gyntaf, mae goblygiadau’r gost oherwydd y byddai’n costio rhwng tua £9 biliwn a £14 biliwn i wahanu ein systemau neu gael gwared ar Orlifoedd Storm Cyfun yn llwyr. Byddai hyn yn cael effaith niweidiol sylweddol ar filiau cwsmeriaid ac ni fyddent yn gallu eu fforddio. Yn ail, byddai’n achosi tarfu ofnadwy gan y byddai’n golygu cloddio bron pob stryd a hyd yn oed ardaloedd gwyrdd yn ein cymunedau a byddai hefyd yn cymryd degawdau i’w cwblhau. Mae Gorlifoedd Storm Cyfun yn seilwaith hanfodol ond mae’n rhaid i ni leihau ein dibyniaeth arnyn nhw.

Erbyn hyn mae gennym offer monitro llif ar 99% o’n holl Orlifoedd Storm Cyfun. Mae’r offer yn cofnodi nifer a hyd y gollyngiadau ac mae’r data hwn – a elwir yn ddata Monitro Hyd Digwyddiad - yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a’i adrodd i’n rheoleiddwyr amgylcheddol. Gallwch weld ein map Monitro Hyd Digwyddiad (EDM) yma. Rydyn ni hefyd yn darparu gwybodaeth llif amser real ar gyfer dyfroedd ymdrochi allweddol i gyrff sydd â buddiant, gan gynnwys Surfers Against Sewage a Rivers Trust. Os nad yw Gorlifoedd Storm Cyfun yn gweithredu’r ffordd y byddem yn ei disgwyl neu os caiff digwyddiad llygredd ei adrodd, byddwn yn ymchwilio i ddeall beth sy’n digwydd a pha gamau y mae angen i ni eu cymryd.

I wneud yn siŵr bod hyn yn dderbyniol i Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, rydyn ni’n rhannu ac yn trafod ein data Monitro Hyd Digwyddiad gyda nhw bob blwyddyn. Yna gallant ein helpu ni i benderfynu a blaenoriaethu beth, os unrhyw beth, y mae angen i ni ei wneud am y gorlifoedd ac erbyn pryd.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf byddwn yn:

  • Datblygu ac ehangu ein systemau rhybuddio Gorlifoedd Storm Cyfun ar gyfer dŵr ymdrochi i grwpiau cymunedol a chynrychioliadol- Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf mewn amser real o fewn awr os bydd Gorlif Storm Cyfun yn gweithredu erbyn 2025.
  • Byddwn yn parhau i lobïo i Lywodraeth Cymru wahardd weips gwlyb fel rhan o’u rheoliadau newydd ar blastig untro. Nid yw weips sy’n cynnwys plastig yn toddi os ydyn nhw’n cael ei fflysio ac maen nhw’n casglu yn y bibell garthffosiaeth gan achosi rhwystrau sy’n gallu achosi digwyddiadau llygredd, gan gynnwys o Orlifoedd Storm Cyfun. Ar hyn o bryd mae rhwystrau yn cyfrif am tua 40% o’r achosion o lygredd yr ydyn ni’n ymdrin â nhw bob blwyddyn.

Data EDM 2022

Mae Teclynnau Monitro Hyd Digwyddiadau (EDM) yn cofnodi nifer y troeon y mae ein gorlifoedd storm yn gweithredu ac am ba hyd. Mae teclynnau monitro bellach ar dros 99.5% o’n gorlifoedd, felly gallwn ddarparu rhai o’r adroddiadau mwyaf cynhwysfawr ar eu perfformiad. Rydyn ni’n rhannu’r wybodaeth yma â’n rheoleiddwyr, ac yn darparu gwybodaeth amser real ar rai dyfroedd ymdrochi ar gyfer cyrff sydd â diddordeb, gan gynnwys Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth a’r Ymddiriedolaethau Afonydd.

Mae ein data ar gyfer 2022 yn dangos y gwelwyd

  • Gostyngiad o 12% yn nifer gyfartalog y troeon y rhyddhawyd dŵr storm fesul gorlif storm o gymharu â 2021, o 43.5 i 38.3
  • Gostyngiad o 25% yn hyd y digwyddiadau gorlif yn 2022, o 807512 awr i 602987.5 awr

Er ein bod ni’n falch o weld y gostyngiad yma, sydd diolch yn rhannol i’r gwaith buddsoddi rydym ni’n ei gyflawni i leihau’r gorlif, bu’r tywydd a gawsom ni’r llynedd yn ffactor hefyd. Bu’r glawiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn 10% yn is na’r cyfartaledd tymor hir, fe welsom ni’r cyfnod mwyaf sych rhwng Ionawr ac Awst ers 1976, a chyhoeddwyd amodau sychder ar draws rhannau o Gymru a Lloegr.

Nid yw dileu gorlifoedd storm yn llwyr o’n system yn fforddiadwy, a byddai hynny’n cymryd degawdau i’w gyflawni, felly nid yw’n opsiwn i ni, ond mae’r gallu i dargedu buddsoddiad ar y CSOs sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein hamgylchedd yn rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth. Dyna pam ein bod ni’n buddsoddi’n helaeth i wella CSOs gan fuddsoddi £140m rhwng 2020-2025, ac mae yna gynlluniau i fuddsoddi £420m pellach rhwng 2025 a 2030. Gallwch ddarllen rhagor am ein cynlluniau buddsoddi yma.

Mae’r map rhyngweithiol isod yn dangos y wybodaeth a rannwyd o’n systemau monitro yn 2022.

Rydyn ni wrthi’n datblygu map newydd a fydd yn darparu gwybodaeth am weithrediad gorlifoedd storm cyn pen yr awr - ar gyfer dyfroedd ymdrochi a safleoedd amwynder uchel i ddechrau. Ein nod yw rhoi hyn ar waith o fewn y flwyddyn nesaf.

2022

Annual Emergency Overflow Annual EDM return - DCWW 2022

Lawrlwytho
192.8kB, XLSM

Annual Storm Overflow EDM return - DCWW 2022

Lawrlwytho
196.3kB, XLSM

NRW Annual Emergency Overflow Unpermitted Storm Overflow EDM return - DCWW 2022

Lawrlwytho
87kB, XLSX

NRW Annual incl Shellfish Waters Storm Overflow EDM return DCWW 2022

Lawrlwytho
369.3kB, XLSX

2021

EDM Return Dwr Cymru Welsh Water Emergency Overflow Annual 2021

Lawrlwytho
51kB, XLSX

EDM Return Dwr Cymru Welsh Water Storm Overflow Annual 2021

Lawrlwytho
50.3kB, XLSX

EDM Return DCWW_Wales Water Annual 2021

Lawrlwytho
270.8kB, XLSX