Neidio i’r cynnwys

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004


Yn Dŵr Cymru, rydym yn cydnabod yr effaith y mae gweithrediadau yn ei chael ar yr amgylchedd ac y bydd llawer o benderfyniadau a wnawn heddiw yn parhau i effeithio ar ein cwsmeriaid a'r amgylchedd am flynyddoedd i ddod.

Image of Elan Valley reservoirRydym yn agored ac yn dryloyw am effaith amgylcheddol ein gweithrediadau.

O dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR), mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth amgylcheddol gennym ni. Mae hyn yn caniatáu i chi ofyn am wybodaeth am ein gweithgareddau a'n penderfyniadau a wneir sy'n ymwneud â'r amgylchedd.

Sylwer, nid yw gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol i Dŵr Cymru.

Mae gennym dîm pwrpasol ar gael i reoli eich ceisiadau a’i nod yw darparu ymatebion amserol, fel arfer o fewn cyfnod targed o 20 diwrnod.