Neidio i’r cynnwys

Sut i storio plaleiddiaid yn gywir


Mae’r ffordd gywir o storio plaleiddiad yn aml yn cael ei anwybyddu. Rydyn ni’n aml yn meddwl mwy am sut i gael gwared ar y chwyn yn hytrach na beth ddylen ni ei wneud gyda’r plaleiddiad cyn ac ar ôl ei ddefnyddio.

Gall defnyddio, storio a gwaredu plaleiddiaid yn anghywir achosi niwed difrifol i’n hunain ac i’r amgylchedd. Dilynwch ein canllaw i’ch helpu i gymryd y camau cywir ar gyfer storio plaleiddiaid a gallwch warchod eich hunan, plant, anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt a chyrsiau dŵr.

Gwnewch y canlynol

  • Darllenwch yr holl fanylion ar botel y plaleiddiad yn ofalus
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y label er mwyn dod o hyd i le diogel i gadw’r plaleiddiad sy’n oer a sych, allan o lygaid yr haul
  • Cadwch gemegion y tu hwnt i gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes
  • Rhowch farc clir ar y botel yn nodi’r dyddiad y cafodd ei hagor neu ei gwanhau, ac edrychwch ar y dyddiad dod i ben
  • Cadwch lygad ar boteli plaleiddiaid yn rheolaidd i wneud yn siŵr nad ydyn nhw wedi’u difrodi.

Ni ddylech wneud y canlynol

  • Peidiwch byth â throsglwyddo’r plaleiddiad i gynhwysydd arall gan fod label y cynnyrch yn cynnwys gwybodaeth hanfodol, a gallech golli’r cemegion
  • Peidiwch â storio plaleiddiad yn agos at ddraen, mewn cypyrddau’n agos at fwyd, cyflenwadau meddygol na chynnyrch glanhau
  • Dylech osgoi eu cadw mewn ystafell lle mae bwyd neu ddiodydd yn cael eu paratoi neu eu bwyta
  • Peidiwch â phentyrru cynhwysyddion rhag ofn iddyn nhw gwympo a gollwng neu ddifrodi.

Gair I Gall:

1. Peidiwch â chadw stoc! Dylech ond prynu a storio faint sydd ei angen arnoch ar yr adeg honno.

2. Dylech storio plaleiddiaid yn eu poteli gwreiddiol bob amser – nid yw’n ddiogel eu trosglwyddo i boteli eraill.

3. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i’r gwerthwr neu i’r gwneuthurwr am gyngor.

Hoffech chi ddysgu rhagor am y pwnc yma?

Ewch i: https://www.rhs.org.uk/advice/profile?pid=372