Drwy leihau’ch dibyniaeth ar blaleiddiaid a chyflwyno cynnyrch amgen i’ch bywyd bob dydd, byddwch yn helpu i ddiogelu ffynonellau dŵr a gwarchod yr amgylchedd yn ehangach. Mae llawer o gynnyrch amgen heb gemegion sy’n gwneud gwaith yr un mor dda, heb beri risg i bobl ac anifeiliaid anwes. Gall ein canllawiau eich helpu i ddod o hyd i ddulliau amgen o reoli chwyn, plâu ac afiechydon ar blanhigion.
Yn hytrach na defnyddio plaleiddiad fel datrysiad cyflym, ceisiwch fod yn llai dibynnol ar gynnyrch cemegol a allai niweidio’r amgylchedd a’n hiechyd.
Rhowch gynnig ar ddefnyddio’r opsiynau ecogyfeillgar yma yn gyntaf. Dyma ryseitiau rhad a syml i reoli chwyn a phryfaid digroeso gyda chynhwysion sydd gennych yng nghypyrddau eich cegin.
Lawrlwytho ein cardiau ryseitiau yma
PDF, 1.6MB
Ydych chi erioed wedi ystyried cael cornel bywyd gwyllt yn eich gardd? Gall gadael i rannau o’ch gardd dyfu’n naturiol helpu gyda rheoli plâu yn ogystal â chefnogi eich mannau gwyrdd i ffynnu!
Lawrlwythwch ein canllaw cornel bywyd gwyllt i ddechrau arni.
PDF, 1.2MB