Cyflwynodd Dŵr Cymru Welsh Water dystiolaeth yn rhan o’r ymgynghoriad hwn gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yng Ngorffennaf ac Awst 2024.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyflwyniadau gan nifer o sectorau sy’n effeithio ar yr amgylchedd, yn ogystal â grwpiau amgylcheddol.
- Cyflwynwyd i: Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Y Senedd).
- Pwnc: Ymrwymiad y cwmni i amddiffyn a chyfoethogi bioamrywiaeth, gyda gweledigaeth y cwmni’n gosod yr amgylchedd wrth galon popeth y mae’n ei wneud.
- Dyddiad cyflwyno: 29 Awst 2024.
- Awdur:Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru.
- Tystiolaeth lafar: 3 Hydref 2024.