Neidio i’r cynnwys

Ein Haddewid i Chi


Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i ddarparu gwasanaeth gwych, ond o bryd i’w gilydd mae pethau’n gallu mynd o chwith.

Rhaid i gwmnïau dŵr fodloni safonau penodol. Fel cwmni sydd mewn perchnogaeth ar ran ein cwsmeriaid, rydyn ni’n cymryd pob cam posibl i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf pob tro. Dyma amlinelliad o’n haddewid i chi, a beth y gallwch ei hawlio os oes rhywbeth yn mynd o’i le.

Oni nodir fel arall, byddwn ni’n talu’r taliadau hyn yn awtomatig, nid oes angen i chi eu hawlio. Os oes gennych ddyled o dros chwech wythnos o daliadau ar eich bil dŵr/carthffosiaeth, byddwn ni’n credydu eich cyfrif yn lle. Mae yna amodau a thelerau sy’n golygu na allwn wneud taliadau dan rai amgylchiadau, er enghraifft lle mae tywydd garw, gweithredu diwydiannol neu weithredoedd trydydd parti wedi ei gwneud hi’n amhosibl i ni gyflawni ein safonau gwasanaeth gwarantedig.

Eich dŵr

Toriadau cynlluniedig

Byddwn ni’n rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi os oes angen cyflawni gwaith cynlluniedig a fydd yn effeithio ar eich cyflenwad am fwy na phedair awr. Os na fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n talu £20 i gwsmeriaid domestig a £50 i gwsmeriaid busnes cyn pen 20 diwrnod gwaith.

Byddwn ni’n adfer eich cyflenwad erbyn yr amser a nodir yn yr hysbysiad. Os na fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n talu £30 i gwsmeriaid domestig a £75 i gwsmeriaid busnes cyn pen 20 diwrnod gwaith.

Byddwn ni’n talu iawndal pellach i chi am bob 12 awr ychwanegol y byddwch heb gyflenwad dŵr yn sgil y toriad. Byddwn ni’n talu £30 i gwsmeriaid domestig a £75 i gwsmeriaid busnes (fesul 12 awr) cyn pen 20 diwrnod gwaith.

Toriadau heb eu cynllunio

Byddwn ni’n adfer eich cyflenwad cyn pen 12 awr ar ôl i’r broblem ddod i’n sylw. Os na fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n talu £30 i gwsmeriaid domestig a £75 i gwsmeriaid busnes cyn pen 20 diwrnod gwaith.

Byddwn ni’n talu iawndal pellach i chi am bob 12 awr ychwanegol y byddwch heb gyflenwad dŵr yn sgil y toriad. Byddwn ni’n talu £30 i gwsmeriaid domestig a £75 i gwsmeriaid busnes (fesul 12 awr) cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os nad oeddem ni’n ymwybodol o’r toriad, bydd angen i chi gyflwyno hawliad trwy ffonio 0800 052 0130 neu ysgrifennu atom cyn pen tri mis ar ôl y digwyddiad.

Gorchymyn sychder heb gynnwys cyfyngiadau ar bibellau dyfrio)

Byddwn ni’n talu iawndal i chi os oes toriad yn eich cyflenwad dŵr oherwydd sychder. Byddwn ni’n talu £10 y diwrnod neu ran o ddiwrnod (hyd at derfyn bil domestig cyfartalog y llynedd) i gwsmeriaid domestig a £50 y diwrnod neu ran o ddiwrnod (hyd at derfyn taliadau dŵr y safle’r llynedd, neu hyd at £500 os nad oeddech yn atebol am daliadau dŵr y llynedd) i gwsmeriaid busnes.

Ansawdd dŵr

Os byddwch chi’n ffonio am fod blas neu arogl od ar eich dŵr, neu am eich bod chi’n credu bod rhywun yn sâl ar ôl yfed y dŵr, byddwn ni’n cysylltu â chi cyn pen pedair awr oni bai ein bod eisoes yn delio â’r broblem yn eich ardal. Os na fyddwn ni’n gwneud hyn, gallwch hawlio £20.

Os byddwn ni’n cymryd sampl o’r dŵr yn sgil eich galwad, byddwn ni’n rhannu’r canlyniad â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith. Os na fyddwn ni’n gwneud hyn, gallwch hawlio £20. Rhaid hawlio’r taliadau hyn cyn pen tri mis ar ôl y digwyddiad.

Ffoniwch 0800 052 0130 a gofyn am ffurflen gais am iawndal. Os oes gennych ddyled o dros chwech wythnos o daliadau ar eich bil dŵr/carthffosiaeth, byddwn ni’n credydu eich cyfrif. I gael gwybodaeth am ansawdd y dŵr yn eich ardal, ewch i dwrcymru.com neu ffoniwch 0800 052 0130.

Pwysedd dŵr

Byddwn ni’n sicrhau bod eich pwysedd dŵr ar y lefel gywir. Y pwysedd lleiaf yw saith metr statig, sydd gyfwerth â llif o 9 litr y funud. Os ydyn ni’n ymwybodol bod eich pwysedd dŵr wedi disgyn yn is na’r lefel hon am awr neu fwy ddwywaith mewn cyfnod o bedair wythnos, byddwn ni’n talu iawndal i chi oni bai ei bod oherwydd gwaith hanfodol neu sychder. Byddwn ni’n talu £25 i chi cyn pen 20 diwrnod gwaith (dim ond un taliad y gellir ei wneud mewn blwyddyn). Os nad oeddem ni’n ymwybodol, bydd angen i chi gyflwyno hawliad trwy ffonio 0800 052 0130 neu gyflwyno cais ysgrifenedig cyn pen tri mis i’r ail ddigwyddiad.

Gosod mesuryddion

Ein nod fydd gosod eich mesurydd cyn pen tri mis ar ôl i’ch cais ddod i law. Os oes modd i ni osod mesurydd ond nad ydym yn gwneud hynny, a bod yr amgylchiadau o fewn ein rheolaeth, byddwn ni’n talu £20 y mis, neu ran o fis, i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl gosod eich mesurydd, neu byddwn ni’n codi Tâl Mesuredig ar sail Asesiad arnoch hyd y dyddiad gosod.

Eich dŵr gwastraff

Llifogydd carthion mewnol

Os byddwch chi’n dioddef llifogydd carthion o’n carthffosydd (pan fo carthion yn dod i mewn i adeilad, eich cartref neu garej cysylltiedig). Byddwn ni’n rhoi taliad i chi sydd gyfwerth â’ch bil carthffosiaeth blynyddol (lleiafswm o £150 ac uchafswm o £1,000 fesul digwyddiad) cyn pen 20 diwrnod gwaith. Yn ogystal â’r taliad hwn, os yw un o’n carthffosydd wedi achosi llifogydd mewnol yn eich cartref, cewch daliad ewyllys da o £100 yn awtomatig am y drafferth y mae’r llifogydd carthion wedi ei hachosi.

Llifogydd carthion allanol

Os bydd carthion yn dod i’ch tir neu’ch eiddo ac yn eich atal rhag mynd i’ch cartref; yn achosi llifogydd sylweddol yn eich gardd gan ei dinistrio i bob pwrpas; neu os bydd dŵr yn llifo i mewn i adeiladau allanol/garejys ar wahân o’n carthffosydd. Byddwn ni’n rhoi taliad i chi sydd gyfwerth â hanner eich bil carthffosiaeth blynyddol (lleiafswm o £75 ac uchafswm o £500 fesul digwyddiad) cyn pen 20 diwrnod gwaith.

Os yw llif 3ydd parti e.e. afon/cwlfert wedi effeithio ar ein hased, mae’n bosibl na fydd y taliadau hyn yn daladwy

Eich gwasanaeth

Apwyntiadau

Os oes angen i ni gynnig apwyntiad i chi, bydd hynny naill ai yn y bore (8am-12pm) neu yn y prynhawn (12pm-6pm) dydd Llun i ddydd Gwener, neu rhwng 8am a 12pm dydd Sadwrn. Gallwn gynnig slot o ddwy awr ar gyfer eich apwyntiad os gofynnwch i ni wneud hynny. Os byddwn ni’n colli apwyntiad neu’n methu â rhoi 24 awr o rybudd i chi am ei ganslo neu ei newid, byddwn ni’n talu £20 i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Cwynion ac ymholiadau

Os byddwch chi’n ysgrifennu atom am ein gwasanaeth neu gydag ymholiad am eich bil, ein nod fydd ymateb i chi cyn pen pum niwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law. Os na fyddwn ni’n ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith, byddwn ni’n talu £20 i gwsmeriaid cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Trefniadau talu

Os ysgrifennwch atom i newid eich trefniadau talu neu amlder eich taliadau, byddwn ni’n ymateb cyn pen pum niwrnod gwaith ar ôl i’ch cais ddod i law. Os na fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n talu £20 i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Taliadau ac ad-daliadau

Gallwch weld sut rydym yn cyfrifo ein costau dŵr a charthffosiaeth ar-lein yma:

Os ydych chi’n credu ein bod wedi gwneud gwall wrth gyfrifo’ch bil, cysylltwch â ni a byddwn ni’n ymchwilio i’r mater.

Materion eraill

Gwysion neu ddyfarniadau ar gam

Os ydyn ni’n gwneud hawliad llys sirol yn eich erbyn ar gam am ddyled nad ydych yn atebol amdani, a’ch bod eisoes wedi dweud wrthym nad ydych yn atebol, byddwn ni’n unioni’r sefyllfa ac yn dileu’r ffioedd a’r costau. Os ydyn ni wedi gwneud hyn, byddwn ni’n talu £100 i chi. Os oes gennych ddyled o dros chwech wythnos o daliadau ar eich bil dŵr/carthffosiaeth, byddwn ni’n credydu eich cyfrif.

Gwirio credyd

Os byddwn ni’n hysbysu asiantaeth gwirio credyd ar gam eich bod yn ddiffygdalwr, byddwn ni’n unioni’r sefyllfa. Os ydyn ni wedi gwneud hyn, byddwn ni’n talu £100 i chi. Os oes gennych ddyled o dros chwech wythnos o daliadau ar eich bil dŵr/carthffosiaeth, byddwn ni’n credydu eich cyfrif.

Taliadau cosb

Os ydyn ni’n methu â gwneud unrhyw un o’r taliadau hyn o fewn yr amser a nodir, byddwn yn talu taliad cosb i chi’n awtomatig. Byddwn ni’n talu £20 i gwsmeriaid preswyl a £50 i gwsmeriaid busnes.

Ai landlord ydych chi?

Os ydych chi’n gosod eiddo lle ni sy’n darparu’r gwasanaethau, mae rheoliadau gan Lywodraeth Cymru sy’n gymwys i chi.

Rhaid i chi:

  • Roi gwybod i ni am newid yn nhenantiaeth unrhyw eiddo sydd gennych cyn pen 21 diwrnod
  • Rhannu manylion y denantiaeth, gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni (os yw’r wybodaeth gennych) a dyddiadau meddiannu unrhyw denantiaid newydd.

Gallwch rannu’r wybodaeth â ni:

Os na fyddwch chi’n rhannu’r manylion hyn â ni, gallech chi fod yn atebol am y taliadau.