Neidio i’r cynnwys

Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf

Buddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr a seilwaith newydd a chydnerth i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân i'n cwsmeriaid am ddegawdau i ddod.

Yr angen am y buddsoddiad

Gyda’i gilydd, mae Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn a Chantref yn darparu dŵr i fwy na 200,000 o gwsmeriaid bob dydd – mae hyn yn cynnwys aelwydydd, busnesau, a gwasanaethau hanfodol fel ysbytai ac ysgolion.

Mae’r gweithfeydd trin dŵr yn hen iawn erbyn hyn, ac mae angen moderneiddio’r prosesau trin dŵr. Dros y blynyddoedd, rydym wedi uwchraddio ac adnewyddu'r cyfleusterau i wneud y defnydd gorau o'n hasedau, ac erbyn hyn mae'n dod yn fwyfwy anodd a chostus cynnal a chadw'r gweithfeydd dŵr hyn.

Gwaith Trin Dŵr Cantref, a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1926, yw'r safle hynaf. O ganlyniad i’w leoliad, gyda llethrau serth i'r dwyrain a'r gorllewin ac yn gyfagos i'r A470, mae'n golygu na ellir uwchraddio'r safle hwn a bydd angen ei ddatgomisiynu.

Ystyriwyd bod Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn yn addas ar gyfer uwchraddio, gan fod gan y safle presennol dir cyfagos, sydd ym mherchnogaeth Dŵr Cymru, i adeiladu'r cyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen. Ar ôl ei uwchraddio, gall y dŵr crai o gronfa ddŵr Cantref lifo i gyfleusterau wedi'u huwchraddio yn Llwyn-onn i gael ei drin.

Ein cynnig

Nawr mae angen i ni ddisodli Gwaith Trin Dŵr Cantref, ac uwchraddio a moderneiddio'r prosesau trin dŵr yn ein Gwaith Trin Dŵr presennol yn Llwyn-onn, a fydd yn sicrhau parhad y cyflenwad dŵr i'n cwsmeriaid.

I wneud hyn rydym yn cynnig:

  • Uwchraddio ein gwaith trin dŵr newydd presennol yn Llwyn-onn, Merthyr Tudful, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Adeiladu tanciau storio dŵr wedi'i drin i gynnal cyflenwad dibynadwy o ddŵr glân i gwsmeriaid.
  • Gosod piblinellau newydd i gysylltu â'r rhwydwaith presennol a dosbarthu'r dŵr glân i gartrefi a busnesau. Yn ogystal â throsglwyddo'r dŵr crai o Gantref i'r gweithfeydd trin dŵr wedi'u huwchraddio i'w drin.

Bydd y cynnig hwn yn darparu'r canlynol i'n cwsmeriaid:

  • Ateb hirdymor i gydymffurfio â'n hysbysiad cyfreithiol gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
  • Prosesau trin dŵr newydd a gwell i gyflenwi dŵr glân a diogel i'n cwsmeriaid.
  • Capasiti trin dŵr ychwanegol i ddarparu ar gyfer twf poblogaeth yn y dyfodol.
  • Capasiti storio dŵr ychwanegol i sicrhau bod gennym gyflenwad dibynadwy o ddŵr.
  • Cyfleusterau cydnerth wedi'u diogelu at y dyfodol i ddarparu ar gyfer effeithiau cynyddol newid hinsawdd.

Er mwyn i ni gyflawni ein dyletswydd gyfreithiol a symud ymlaen â'n cynnig, bydd angen i ni geisio caniatâd cynllunio yn gyntaf.

Trosolwg o’r amserlen

Ers i ni gael ein hysbysiad cyfreithiol gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, rydym wedi treulio amser yn ystyried ein hopsiynau i ddod o hyd i'r ateb gorau i foderneiddio ein cyfleusterau trin dŵr gan ystyried hefyd yr effeithiau amgylcheddol, yr aflonyddwch i gymunedau a'r costau i'n cwsmeriaid.

Mae'r amserlen isod yn amlinellu'r camau rydym wedi'u cwblhau ac amserlen ddangosol o beth fydd y camau nesaf.

Camau Nesaf

Profi a chomisiynu'r cyfleusterau trin dŵr newydd. Yna bydd Cantref yn cael ei ddatgysylltu o'r rhwydwaith, cyn datgomisiynu'r cyfleusterau presennol.

Yna bydd dŵr yfed yn cael ei ddosbarthu i gartrefi a busnesau o'r cyfleusterau newydd.

Yn amodol ar benderfyniad cynllunio, rydym yn gallu rhoi’r rhaglen adeiladu mewn camau a chynnal y cyflenwad i gwsmeriaid yn ystod y gwaith adeiladu yn Llwyn-onn.

Rydym wedi amcangyfrif y bydd y gwaith adeiladu, i uwchraddio'r gwaith trin dŵr a'r seilwaith cysylltiedig, yn digwydd dros gyfnod o 4 blynedd.

Cam 7 - Cais Cynllunio - 2026

Wrth i ni baratoi ar gyfer cyflwyno ein ceisiadau cynllunio rydym:

  • Yn adolygu ac ystyried yr ymatebion i'n hymgynghoriadau yn ofalus.
  • Yn cynnal arolygon pellach i lywio ein ceisiadau cynllunio.
  • Yn gweithio'n agos gydag ymgynghorwyr arbenigol i ystyried yr effeithiau amgylcheddol a threftadaeth a'r aflonyddwch i gymunedau – a deall sut y gallwn osgoi neu liniaru'r effeithiau hyn ymhellach.

Bydd angen i ni gyflwyno ein cais cynllunio i'r awdurdodau cynllunio perthnasol; Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Hydref/Gaeaf

Rydym wedi cynnal dau ymgynghoriad cyn gwneud cais statudol ar ein cynigion i fuddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd a chydnerth a chyfleusterau cysylltiedig.

Rhoddodd yr ymgynghoriadau gyfle i'r gymuned leol a rhanddeiliaid adolygu ein cynlluniau, dogfennau cais cynllunio drafft a rhoi sylwadau cyn i ni wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Gwnaethom adolygu ymatebion i ymgynghoriadau anstatudol, cynnal arolygon pellach, a mireinio dyluniadau. Cefnogodd y wybodaeth hon ddatblygiad ein dogfennau cais cynllunio drafft.

Ym mis Ionawr 2025, diweddarodd y DWI yr hysbysiad cyfreithiol i nodi gofyniad i:

  • Adeiladu a chomisiynu'r gwaith trin dŵr newydd i gymryd lle Pontsticill.
  • Uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn a disodli Gwaith Trin Dŵr Cantref fel rhan o'r gwaith uwchraddio.
  • Datgysylltu Gwaith Trin Dŵr Cantref a Phontsticill o'r rhwydwaith, erbyn mis Medi 2032.

Cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ar gynigion diwygiedig ar gyfer safleoedd rhannol, gan wahodd adborth gan y gymuned.

Cyhoeddwyd y penderfyniad i gymryd rhagor o amser i adolygu ac ystyried ein hopsiynau. Adolygwyd yr adborth a chynhaliwyd arolygon pellach a diweddarwyd y broses dewis safle.

Cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ar y cynnig ar gyfer un safle, gan wahodd y gymuned i wneud sylwadau ar ein cynigion cynnar. Cyhoeddwyd cwestiynau cyffredin.

Mae cyflenwad dŵr yn cael ei fonitro'n fanwl a'i reoleiddio'n annibynnol gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI). Mae hyn yn golygu ein bod yn cyflenwi dŵr sy'n ddiogel i'w yfed ac yn bodloni'r safonau a nodir yn y Rheoliadau Ansawdd Dŵr.

Rhoddwyd hysbysiad cyfreithiol i Ddŵr Cymru yn 2019 gan y DWI yn ei gwneud yn ofynnol i ni uwchraddio'r prosesau trin dŵr, yng ngweithfeydd trin dŵr Cantref, Pontsticill a Llwyn-onn.

Gwnaethom gynnal adolygiad dewis safle ac arolygon ecoleg i asesu'r opsiwn ar gyfer gwaith trin dŵr ar un safle arfaethedig.

Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf

Yn Eich

Ardal

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, ewch i'n gwasanaeth Yn Eich Ardal.

Delwedd – Dysgu Mwy

Gwybodaeth bellach

Rydym wedi cynhyrchu rhai deunyddiau a gynlluniwyd i rannu â chi'r angen am y buddsoddiad, a sut olwg allai fod ar y gwaith trin dŵr a'r orsaf bwmpio newydd.

Map rhyngweithiol

Mae ein map rhyngweithiol, a gyflwynwyd yn ystod ein hymgynghoriad yn 2025, ar gael i'w weld o hyd. Mae'r map yn caniatáu i chi ddeall lleoliad a chynllun y gwaith trin dŵr a'r orsaf bwmpio arfaethedig, a ble mae angen i ni osod piblinellau newydd.

Mae'r map yn caniatáu i chi lywio i leoliadau o ddiddordeb, a gweld delweddau sydd wedi'u hymgorffori yn y map (cliciwch ar y cylchoedd). Darparwyd y delweddau hyn i ddangos yr olygfa bresennol o'r lleoliad hwnnw i chi, yn ogystal â sut olwg allai fod ar y gwaith trin dŵr neu'r orsaf bwmpio.

I weld y map rhyngweithiol, cliciwch yma.

Fideo rhithwir a delweddau wedi’u cynhyrchu â chyfrifiadur

Mae ein delweddau wedi’u cynhyrchu â chyfrifiadur, a gyflwynwyd yn ystod ein hymgynghoriad yn 2025, wedi'u creu i roi syniad i chi sut olwg allai fod ar waith arfaethedig Uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn a sut mae'r dyluniad wedi ystyried y dirwedd leol.

To access the fly through video click here.

Mae'r delweddau hyn at ddibenion darluniadol yn unig.

Bydd delweddiadau pellach yn cael eu cyflwyno yn y Datganiad Amgylcheddol a gyflwynwn gyda'n cais cynllunio. Bydd y delweddau hyn yn cael eu creu ar gyfer yr Asesiad Effaith ar y Dirwedd a'r Effaith Weledol, sy'n dangos yr effeithiau gweledol tebygol ar gyfer y datblygiad o safbwyntiau penodol.

Llyfrynnau’r ymgynghoriad

Gellir gweld a lawrlwytho ein llyfrynnau ymgynghori o'n tudalen Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf, yn yr adran dogfennau yma.

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o gwestiynau am y prosiect hwn a pham mae angen i ni ei wneud. Rydym wrthi'n cynhyrchu tudalen Cwestiynau Cyffredin a fydd ar gael yn fuan.

Ymgysylltu â'r gymuned

Rydym yn deall bod ein cynigion o ddiddordeb i'r gymuned leol a hoffem annog eich cydweithrediad a'ch adborth parhaus i'n helpu i nodi sut y gallwn achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

  • Rydym yn awyddus i weithio mewn cydweithrediad â'r gymuned leol wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau i greu lleoedd cynaliadwy a chefnogi gwelliannau i'r amgylchedd lleol a bioamrywiaeth. Gallai hyn gynnwys cefnogi gweithgareddau addysgol, sefydliadau gwirfoddol neu fentrau iechyd a llesiant.
  • Os hoffech ymgysylltu â ni, e-bostiwch cwmtafproject@dwrcymru.com neu ffoniwch 800 52 130 a gofynnwch i aelod o Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf eich ffonio’n ôl.