Mae Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf yn ymwneud â diogelu ein cyflenwad dŵr i gwsmeriaid a chymunedau ar gyfer y dyfodol.
Yng Nghymru rydym yn ffodus i fod â’r adnoddau naturiol sy'n rhoi cyflenwad hanfodol o ddŵr i ni, ond nid ydym byth yn cymryd hynny'n ganiataol. Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein dŵr yn llifo ac yn darparu dŵr yfed glân a diogel, mae angen i ni fuddsoddi yn ein rhwydwaith fel y gallwn addasu i'r pwysau ar adnoddau dŵr yn y dyfodol.
Yr angen am gyfleusterau trin dŵr newydd
Mae ein cyfleusterau trin dŵr yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn darparu dŵr yfed i bobl ar draws Merthyr Tudful a’r cyffiniau. Mae ein rhwydwaith dŵr yfed yn yr ardal hon yn cynnwys nifer o weithfeydd trin dŵr, yr adeiladwyd llawer ohonynt ar ddechrau’r 1900au.
Mae'r gweithfeydd trin dŵr ym Mhontsticill, Cantref a Llwyn-onn yn heneiddio ac wedi dod yn fwyfwy anodd eu cynnal. Dros y blynyddoedd, rydym wedi uwchraddio ac adnewyddu'r gweithfeydd i wneud y defnydd gorau o'n hasedau yn eu lleoliad presennol, ac erbyn hyn mae'n dod yn fwyfwy anodd a chostus cynnal a chadw'r gweithfeydd hyn.
Erbyn hyn, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i adnewyddu'r prosesau trin dŵr, gan ddarparu ateb cynaliadwy i gyflenwi dŵr yfed glân ymhell i'r dyfodol.
Bydd angen i gyfleusterau newydd ddarparu:
- Prosesau trin dŵr newydd a gwell, gan gyflenwi dŵr o ansawdd uchel yn gyson.
- Capasiti storio dŵr ychwanegol i sicrhau bod gennym gyflenwad dibynadwy o ddŵr.
- Cyfleusterau wedi'u diogelu at y dyfodol i ddarparu ar gyfer twf poblogaeth yn y dyfodol ac er mwyn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn fwy.
Heb fuddsoddiad mawr, ni fyddwn yn gallu parhau i gyrraedd y safonau dŵr yfed uchel y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw, a bydd cwsmeriaid mewn perygl o fwy o doriadau i’r cyflenwad dŵr yn y dyfodol.
Ein cynnig buddsoddi
Rydym wedi treulio amser yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael i ni a:
- cynnal nifer o arolygon,
- cwblhau prosesau dewis safle,
- ac ymgynghori ar ein cynigion gyda'r gymuned leol a rhanddeiliaid ym Merthyr Tudful a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r broses hon yn helpu i lywio ein penderfyniadau i ddod o hyd i'r ateb gorau i foderneiddio ein cyfleusterau trin dŵr ar gyfer ein cwsmeriaid nawr – yn ogystal â'r rhai yn y dyfodol.
Gweler adran Ein Hymgynghoriadau i ddysgu mwy.
Gallwch weld ein Hadroddiad Dewis Safle 2024 (cynigion diwygiedig) yma.
Credwn y bydd ein cynigion yn darparu ateb cynaliadwy i ddisodli ein cyfleusterau trin dŵr sy'n heneiddio a'u disodli a darparu prosesau trin dŵr newydd a chydnerth i gyflawni ein dyletswydd gyfreithiol gan leihau'r effeithiau amgylcheddol a'r costau i'n cwsmeriaid hefyd.
Mae'r buddsoddiad wedi'i rannu'n ddau gynnig ac mae'n cynnwys dull ar draws dau safle, sy'n golygu bod yn rhaid i ni gyflawni'r ddau gynnig a nodir isod, er mwyn darparu ateb i hysbysiad cyfreithiol yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Cynnig 1: Gwaith Trin Dŵr Dan-y-Castell a Gorsaf Bwmpio Pontsticill
Adeiladu gwaith trin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell ym Merthyr Tudful, ynghyd â gorsaf bwmpio dŵr crai newydd ar ein safle ym Mhontsticill. Bydd y cynnig hwn yn disodli Gwaith Trin Dŵr presennol Pontsticill.
Cynnig 2: Uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn
Buddsoddi yng Ngwaith Trin Dŵr presennol Llwyn-onn a'i uwchraddio, a fydd yn caniatáu datgomisiynu Gwaith Trin Dŵr Cantref a adeiladwyd yn wreiddiol yn ôl ym 1926.
Gyda'i gilydd, bydd y cynlluniau'n moderneiddio'r rhwydwaith dŵr yfed ledled De Cymru, gan ddisodli cyfleusterau trin sy’n ganmlwydd oed a chynyddu'r capasiti storio dŵr glân.
Rydym wedi creu dwy dudalen ar y wefan, un ar gyfer pob cynnig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynnig perthnasol drwy glicio ar yr adrannau isod.
Camau nesaf
Er mwyn i ni gyflawni ein dyletswydd gyfreithiol a symud ymlaen â'n cynigion i fuddsoddi yn ein cyfleusterau trin dŵr, bydd angen i ni geisio caniatâd cynllunio yn gyntaf. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyflwyno ceisiadau cynllunio ar wahân ar gyfer pob cynnig i'r ddau awdurdod cynllunio perthnasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cyn i ni gyflwyno ein ceisiadau cynllunio rydym:
- Yn adolygu ac ystyried yr ymatebion i'n hymgynghoriadau yn ofalus.
- Yn cynnal arolygon pellach i lywio ein ceisiadau cynllunio.
- Yn gweithio'n agos gydag ymgynghorwyr arbenigol i ystyried yr effeithiau amgylcheddol a threftadaeth a'r aflonyddwch i gymunedau – a deall sut y gallwn osgoi neu liniaru'r effeithiau hyn ymhellach.
Ymgysylltu â'r gymuned: Rydym yn deall bod ein cynigion o ddiddordeb i'r gymuned leol a hoffem annog eich cydweithrediad a'ch adborth parhaus i'n helpu i nodi sut y gallwn achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Rydym yn awyddus i weithio mewn cydweithrediad â'r gymuned leol wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau i greu lleoedd cynaliadwy a chefnogi gwelliannau i'r amgylchedd lleol a bioamrywiaeth. Gallai hyn gynnwys cefnogi gweithgareddau addysgol, sefydliadau gwirfoddol neu fentrau iechyd a llesiant.
Os hoffech ymgysylltu â ni, e-bostiwch cwmtafproject@dwrcymru.com.
Cwestiynau Cyffredin
Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o gwestiynau am y prosiect hwn a pham mae angen i ni ei wneud. Rydym wrthi'n cynhyrchu tudalen Cwestiynau Cyffredin a fydd ar gael yn fuan.
- Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch ni yn cwmtafproject@dwrcymru.com
Ein hymgynghoriadau
Mae ein cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymgysylltu â'n hymgynghoriadau, ac rydym yn gwerthfawrogi'r adborth a gafwyd yn fawr. Rydym yn adolygu'r ymatebion a gafwyd yn ofalus.
Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais Statudol: 30 Hydref 2025 – 5 Ionawr 2026
Rydym wedi cynnal dau ymgynghoriad cyn gwneud cais statudol ar ein cynigion i fuddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd a chydnerth a chyfleusterau cysylltiedig.
Rhoddodd yr ymgynghoriadau gyfle i'r gymuned leol a rhanddeiliaid adolygu ein cynlluniau, dogfennau cais cynllunio drafft, a rhoi sylwadau cyn i ni wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Mae'r adborth a gafwyd fel rhan o'r ymgynghoriad cyn gwneud cais yn cael ei ystyried wrth i ni gwblhau ein ceisiadau. Bydd y sylwadau a godwyd, a sut y gwnaethom eu hystyried, yn rhan o’r cyflwyniadau cais cynllunio terfynol – a nodir yn yr Adroddiadau Ymgynghori Cyn Gwneud Cais (PAC).
Mae ein hymgynghoriadau cyn gwneud cais wedi cau erbyn hyn. Mae manylion y cynigion yn dal i fod ar gael i'w gweld ar y dolenni uchod.
Ein Hymgynghoriadau Anstatudol 2022 a 2024
Cynnig gwreiddiol: Gwaith Trin Dŵr ar Un Safle 2022
Yn 2022, cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ar gynigion cynnar i ddisodli'r tri safle gwaith trin dŵr presennol gyda gwaith trin dŵr newydd ar un safle ar Fferm Gurnos, Merthyr Tudful, a gwahoddwyd y gymuned leol a rhanddeiliaid i wneud sylwadau ar y cynnig hwn.
Roedd yr adborth a gawsom yn hynod ddefnyddiol. Yn dilyn ymgynghoriad 2022, gwnaethom dreulio amser yn gwrando ar adborth y gymuned leol ac yn herio ein hunain i weld a oedd atebion eraill a oedd yn cydbwyso ein hangen i gyflawni ein dyletswydd gyfreithiol i wella'r seilwaith dŵr lleol gan ystyried adborth y gymuned ac effeithiau amgylcheddol hefyd.
Cynigion diwygiedig: Dull ar draws dau safle 2024
Yn 2024, cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol pellach ar ein cynigion diwygiedig, a fydd gyda'i gilydd yn darparu cyfleusterau trin dŵr newydd a chydnerth, gan ddiogelu a pharatoi'r cyflenwad dŵr at y dyfodol, gan ddileu'r angen am waith trin mwy o faint ar un safle ar Fferm Gurnos.
Drwy gymryd amser ychwanegol i adolygu a chynnal arolygon pellach, roeddem yn gallu diwygio ein cynigion gan gynnig dull ar draws dau safle, sy'n golygu cynnig uwchraddio Gwaith Trin Dŵr presennol Llwyn-onn ac adeiladu gwaith trin dŵr newydd llai o faint yn Fferm Dan-y-Castell, Merthyr Tudful, ynghyd â gorsaf bwmpio dŵr crai newydd yn ein safle Gwaith Trin Dŵr presennol ym Mhonsticill.
Mae’r dull ar draws dau safle yn ein galluogi:
- I uwchraddio un o'r gweithfeydd trin dŵr presennol ac ailddefnyddio asedau presennol Dŵr Cymru.
- I leihau maint gwaith trin dŵr newydd sydd ei angen yn ardal Merthyr Tudful.
- I leihau faint o bibellau a gorsafoedd pwmpio newydd sydd eu hangen, gan ddiogelu treftadaeth ac amharu ar draffig cyn lleied â phosibl.
- I leihau costau cyfalaf a'r gost i'n cwsmeriaid.
- I ddarparu ateb carbon ymgorfforedig is drwy fanteisio i’r eithaf ar y seilwaith presennol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cynigion hyn yn Nhaflen Ymgynghori Anstatudol Dŵr Cwm Taf 2024 ac yn yr adroddiad adborth anstatudol, sydd ar gael yn yr adran dogfennau blaenorol isod.