Neidio i’r cynnwys

Pantymwyn


Rydym yn buddsoddi ym Mhantymwyn i helpu i ddiogelu'r amgylchedd.

Un o'r prif bethau a wnawn yn Dŵr Cymru yw anelu at ddarparu gwasanaeth dŵr gwastraff o'r radd flaenaf i chi a fydd yn cael gwared ar y dŵr gwastraff rydych chi'n ei fflysio i ffwrdd neu'n ei olchi i lawr y sinc, gan hefyd ddiogelu'r amgylchedd lleol.

Dyna pam rydym yn buddsoddi yn ein seilwaith dŵr gwastraff yn yr ardal.

Fel cwmni, rydym yn dibynnu ar yr amgylchedd am y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a ddarparwn. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i ddiogelu'r amgylchedd o ddifrif - dyna pam y byddwn yn buddsoddi £2.5 biliwn mewn prosiectau i wella'r amgylchedd rhwng 2025 a 2030.

Gwaith trin dŵr gwastraff Pantymwyn

Mae ein gwaith trin dŵr gwastraff ym Mhantymwyn yn glanhau ac yn trin dŵr gwastraff o gartrefi a busnesau ym Mhantymwyn a Chilcain cyn dychwelyd y dŵr i'r cwrs dŵr lleol.

Pam y byddwn yn gweithio yn eich ardal chi?

Wrth i'r rheolau a'r rheoliadau ar gyfer safon sut mae dŵr gwastraff yn cael ei drin cyn iddo gael ei ddychwelyd i'r amgylchedd fynd yn fwy llym, mae angen i ni sicrhau bod y gwaith trin yn glanhau'r dŵr yn well i helpu i amddiffyn y dyfrffyrdd lleol a'r môr. Gan fod y terfynau ar gyfer y safle wedi'u gosod yn fwy llym, mae angen i ni wneud uwchraddiadau mawr i'n seilwaith fel bod y dŵr rydyn ni'n ei ddychwelyd i'r amgylchedd lleol yn lanach.

Ni fyddai ein gwaith trin dŵr gwastraff presennol ym Mhantymwyn yn gallu bodloni gofynion newydd llymach heb elfennau trin ychwanegol, fodd bynnag, oherwydd maint a lleoliad y safle, ni allwn osod mwy o offer ar y safle.

Felly, byddwn yn troi'r safle yn orsaf bwmpio a fydd yn pwmpio'r holl ddŵr gwastraff i ffwrdd o'r safle i'n gwaith trin dŵr gwastraff cyfagos ym Maes-y-Groes trwy bibell ddŵr gwastraff newydd. Bydd y bibell newydd 3km hon yn cael ei gosod trwy dir preifat.

Byddwn hefyd yn gwneud gwaith gwella yn ein gwaith trin dŵr gwastraff ym Maes-y-Groes i ganiatáu ar gyfer y llifau ychwanegol i'r safle. Pan fyddwn ni'n gosod y bibell newydd, byddwn ni'n dechrau ym Mhantymwyn ac yn gweithio ein ffordd i lawr i Faes-y-Groes.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan ein partneriaid O’Connor Utilities a’u his-gontractwyr.

Gan y bydd yr holl waith ar ein safleoedd a thrwy gaeau, ni ddylem achosi gormod o aflonyddwch yn lleol, ond efallai y byddwch yn sylwi ar fwy o gerbydau adeiladu yn yr ardal. Os bydd y gwaith yn effeithio arnoch chi’n uniongyrchol, byddwn mewn cysylltiad i roi gwybod i chi. Ni fydd y gwaith hwn yn effeithio ar eich gwasanaethau dŵr na dŵr gwastraff.

Rydym yn bwriadu dechrau’r gwaith yn Haf 2026 a bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd 2027.

Yn Eich Ardal

Am ragor o wybodaeth a diweddariadau ar y gwaith ewch i’n tudalen Yn Eich Ardal chi yma.

Cliciwch i’n dilyn ni am hysbysiadau awtomatig o pryd y bydd diweddariadau’n cael eu postio.

Darganfod mwy