Neidio i’r cynnwys

Tudalen gais ar gyfer Cenhadon Cymunedol


Yn Dŵr Cymru, mae gennym ddyletswydd i’n cwsmeriaid a chenedlaethau’r dyfodol i sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff dibynadwy ar eich cyfer.

Bydd ein gwaith yn Danescourt a Pharc Hailey yn helpu i sicrhau bod ein rhwydwaith gwastraff yn gallu ymdopi â’r cynnydd yn y llif a ddisgwylir yn sgil datblygiad tai Plasdŵr, gan leihau’r risg y gallai’r rhwydwaith fethu gan daro’r gymuned ehangach.

R’yn ni’n gwybod bod ein gwaith yn gallu bod yn drafferthus ar adegau, ac rydyn ni am sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda’r gymuned fel pob pawb yn gwybod beth sy’n digwydd. Rydyn ni’n chwilio am Genhadon Cymunedol o wahanol grwpiau cymunedol ar draws cymunedau Ystum Taf a Danescourt i ymuno â’n tîm i weithio ar y cyd a dweud eu dweud er mwyn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.

Beth mae’r rôl yn ei olygu?

Rydyn ni am sicrhau bod y gymuned yn gwybod beth sy’n digwydd ar bob cam o’r ffordd. Bydd ein cenhadon cymunedol yn gyfrifol am ein helpu ni i gysylltu â phobl yn eu cymuned leol, gan godi ymwybyddiaeth am ein gwaith, a rhannu adborth â ni fel y gallwn ni fynd i’r afael ag unrhyw bryderon. Bydd disgwyl iddynt siarad â’u cymdogion a grwpiau cymunedol y maent yn ymwneud â nhw er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gywir am ein gwaith.

Bydd disgwyl iddynt:

  • Gymryd rhan mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd i glywed sut mae’r gwaith yn mynd ac am y gweithgareddau allweddol sydd ar y gweill. Cynhelir y cyfarfodydd bob rhyw chwech wythnos a byddant yn para tua 1 awr a 30 munud.
  • Mynychu ymweliadau safle i weld sut mae’r gwaith yn mynd
  • Rhannu deunyddiau gwybodaeth mewn hybiau cymunedol
  • Casglu adborth a’i rannu hyn â’n tîm prosiect

Dyma gyfle cyffrous i gydweithio’n agos ag un o gwmnïau a chyflogwyr mwyaf Cymru, a dysgu sgiliau newydd a allai helpu gyda’u datblygiad proffesiynol. Bydd yna gyfleoedd i’r ymgeiswyr llwyddiannus ymweld â’n safleoedd gweithredol i ddysgu am ein busnes, a chwrdd ag arweinwyr uwch yn y busnes a rhoi cyflwyniadau iddynt.