TarddLe
Gofalu am dir, afonydd a chronfeydd dŵr er mwyn amddiffyn dŵr yfed am flynyddoedd i ddod.
Mae dŵr yn mynd ar siwrnai hir cyn cyrraedd eich tap. Mae pob un diferyn sy’n disgyn o’r awyr yn llifo dros dir cyn ffeindio’i ffordd i afonydd, cronfeydd dŵr a dyfroedd daear cyn cyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr yfed.
Ar hyd y ffordd, mae’r dŵr yn gallu casglu sylweddau sy’n effeithio ar ei ansawdd; gallai’r rhain fod yn sylweddau naturiol neu rai sy’n deillio o’r ffordd y mae’r tir yn cael ei reoli. Trwy fabwysiadu camau effeithiol i reoli dalgylchoedd, gallwn amddiffyn ansawdd dŵr yn ei darddle. Mae hynny’n golygu bod angen defnyddio llai o gemegolion ac ynni yn ystod y broses drin i wneud y dŵr yfed yn iawn i’n cwsmeriaid ac amddiffyn yr amgylchedd.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ofalu am ein ffynonellau dŵr yfed nawr ac am flynyddoedd i ddod. Mae Dŵr Cymru 2050 yn pennu’r ymrwymiad hirdymor yma yn Ymateb Strategol 1: Diogelu dŵr yfed glân trwy reoli dalgylchoedd.
Dyna pam ein bod ni am gydweithio’n agos â rheolwyr tir, grwpiau cymunedol a chwsmeriaid i hybu arferion gorau o ran gweithgareddau yn ein dalgylchoedd dŵr yfed – gyda’ch cefnogaeth chi gallwn gyflawni llawer mwy! Ein dull TarddLe o weithredu yw hyn.
Ble mae ein dalgylchoedd?
Rydyn ni’n codi dŵr o dros 100 o ffynonellau ar draws Cymru a Lloegr.
Daw’r rhan fwyaf o’r dŵr o afonydd a chronfeydd dŵr, ac rydyn ni’n defnyddio rhywfaint o ddŵr daear hefyd. Mae’r map yn dangos ardal 11,000km² y dalgylchoedd dŵr yfed – sef y tir i fyny’r llif o’n pwyntiau codi dŵr.
Sut ydyn ni’n gweithio?
Ni sy’n berchen ar lai na 5% o’r tir sydd yn ein dalgylchoedd dŵr yfed, felly rhaid i ni weithio gyda’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r ardaloedd hyn.
Nod ein rhaglen TarddLe yw cael gwell dealltwriaeth am sut mae gweithgareddau sy’n defnyddio’r tir a’r dŵr yn ein dalgylchoedd yn effeithio ar ansawdd dŵr, a chydweithio i ddiogelu ffynonellau dŵr yfed nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflawni trwy ein 5 ffrwd gwaith:
- Pwyso a Mesur y Risgiau: sicrhau ein bod ni’n deall beth sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yn ein dalgylchoedd
- Dalgylchoedd Clyfar: defnyddio dulliau a thechnolegau arloesol i ddarogan newidiadau mewn ansawdd dŵr nawr ac yn y dyfodol
- Ymchwil ac Arloesi: hwyluso’r wyddoniaeth ddiweddaraf er mwyn cael gwell dealltwriaeth am yr hyn sydd wrth wraidd newidiadau mewn ansawdd dŵr a threialu dulliau newydd o weithredu
- Partneriaethau ac Ymgysylltiad: gweithio mewn cydweithrediad â phartneriaid a chymunedau i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd diogelu dalgylchoedd dŵr yfed
- Mesurau Lliniaru Cydweithredol: datblygu arferion gorau o ran dulliau o weithio a chyd-ddylunio atebion gyda phartneriaid a fydd yn dod â manteision niferus i bobl, dŵr a’r amgylchedd.
Pwy fyddwn ni’n cydweithio â nhw?
Rydyn ni’n gwybod bod gweithgareddau ar dir a dŵr yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr yn ein dalgylchoedd dŵr yfed. Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda phawb sydd â dylanwad er mwyn amddiffyn ein ffynonellau dŵr yfed. Dyma'r partneriaid allweddol sydd wedi gweithio gyda ni hyd yn hyn.
Sut gallwn ni gydweithio?
Cliciwch ar y linciau isod i weld sut rydyn ni’n cydweithio ag eraill yn ein dalgylchoedd dŵr yfed
Partneriaethau Cydweithredol
Rydyn ni’n awyddus i weithio gydag eraill i feithrin partneriaethau cydweithredol sy’n ein helpu ni i godi ymwybyddiaeth am ein dull TarddLe o weithredu, a chydweithio i gyd-ddatblygu a threialu atebion lleol.
Rydyn ni am weithio gyda sefydliadau a phartneriaid sy’n gallu helpu i ledu’r gair trwy eu cynulleidfaoedd er mwyn dylanwadu ar arferion gorau a’u hybu.
Bydd hyn yn helpu i amddiffyn ein ffynonellau dŵr yfed ac yn dod â manteision ehangach fel effeithlonrwydd busnes ac amddiffyniad amgylcheddol. Mae esiamplau o’r gweithgareddau a gyflawnir trwy bartneriaeth yn cynnwys cynnal digwyddiadau a gweithdai, gan gynnwys erthyglau TarddLe yn newyddlenni aelodau/cwsmeriaid, treialu technegau a llunio astudiaethau achos.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor a dysgu sut y gallwch gymryd rhan.
Rhwydwaith y Grŵp Dŵr
Rydyn ni am adeiladu rhwydwaith o grwpiau trafod pwrpasol mewn dalgylchoedd allweddol er mwyn ein helpu ni i feithrin gwell dadleuwriaeth am y gweithgareddau yn ein dalgylchoedd a meithrin perthnasau lleol er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd diogelu ansawdd dŵr crai. Cliciwch yma i ddarllen rhagor am ein grŵp dŵr a sut y gallwch chi chwarae rhan ynddo.
Mae’r dull yma o weithredu’n adeiladu ar lwyddiant ein grŵp blaenllaw, sef Grŵp Dŵr y Bannau (BWG). Mae rhagor o fanylion yma.