Cyflwyniad i Grŵp Dŵr y Bannau
Grŵp o ffermwyr o Fannau Brycheiniog sydd wedi dod at ei gilydd i sefydlu Cwmni Buddiant Cymunedol unigryw yw Grŵp Dwr y Bannau. Mae’r Grŵp yn cydweithio i arbrofi â dulliau newydd o weithio ac arferion amaethyddol arloesol sy’n fuddiol i ffermydd ac yn amddiffyn ffynonellau dŵr yfed.
- Sefydlwyd Grŵp Dŵr y Bannau o dan fenter Mega Ddalgylch Bannau Brycheiniog, a chafodd ei fodelu ar waith byd-enwog Cyngor Amaethyddol Watershed yn Nhalaith Efrog Newydd.
- Partneriaeth yn seiliedig ar ddeilliannau rhwng Dŵr Cymru a’r gymuned amaethyddol yw’r grŵp, ac mae’n gweithredu o’r gwaelod i fyny wrth ddylanwadu ar ddulliau rhagweithiol o reoli tir fferm.
- Mae’r rhanddeiliaid allweddol yn y maes yn cydnabod bod gweithgarwch y grŵp yn cyflawni arferion gorau ac yn dylanwadu ar bolisi, e.e. ymgorfforwyd y prosiectau peilot a gyflawnwyd gan BWG i ddogfen gynnig Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, ac mae BWG wedi cael ei gynnwys fel astudiaeth achos yng Nghynllun Rheoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Sêr y Bannau.
Cefndir
Rydyn ni’n deall pwysigrwydd ffermio o fewn ein dalgylchoedd dŵr yfed, ac rydyn ni’n awyddus i weithio gyda ffermwyr ar arferion rheoli tir cynaliadwy sy’n llesol i’r busnesau ac i’n ffynonellau dŵr yfed fel ei gilydd.
Er mwyn gwneud hyn, fe ddatblygon ni raglen Mega Ddalgylch Bannau Brycheiniog (BBMC), gyda’r nod o reoli’r dalgylch ar lefel y dirwedd o fewn yr ardal benodol hon sydd o bwys strategol. Bannau Brycheiniog sy’n cyflenwi bron i hanner y dŵr yfed rydyn ni’n ei ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid pob un dydd, a dyna pam ein bod ni’n ei alw yn Fega Ddalgylch dŵr.
Mae Grŵp Dŵr y Bannau yn dod o fewn menter y BBMC. Clwstwr o ffermwyr rhagweithiol sydd wedi meithrin partneriaeth unigryw â ni i ddarparu arferion rheoli tir sy’n llesol i bawb ohonom ni yw’r grŵp. Y bartneriaeth hon yw’r cyntaf o’i math yng Nghymru, a gyda’n gilydd rydyn ni’n archwilio sut y gallwn efelychu ein llwyddiannau gyda chlystyrau ffermio eraill ar draws ein dalgylchoedd dŵr yfed.
Trwy weithio mewn partneriaeth sy’n ymbweru ffermwyr i weithio gyda ni i ddod o hyd i atebion a gwneud penderfyniadau, rydyn ni’n credu ein bod ni’n fwy tebygol o sbarduno newidiadau cynaliadwy o ran defnydd tir a fydd yn darparu manteision hirdymor ar gyfer ffermwyr a’r amgylchedd dŵr.
Hwylusodd Dŵr Cymru achlysur cyfnewid gwybodaeth gydag Adran Diogelu’r Amgylchedd yn Efrog Newydd a Chyngor Amaethyddol Watershed (WAC) ym Mynyddoedd y Catskills yn 2018. Yn dilyn hynny, daeth ffermwyr Bannau Brycheiniog at ei gilydd, a gyda’n cymorth ni, sefydlwyd Grŵp Dŵr y Bannau. Y nod oedd arbrofi â dulliau WAC gan eu haddasu i gyd-destun Cymreig.
Ers ei sefydlu, mae’r grŵp bach yma o ffermwyr ymroddgar a rhagweithiol wedi gweithio gyda ni i arbrofi â phrosiectau sy’n llesol i’w busnesau ac yn amddiffyn ansawdd ein ffynonellau dŵr yfed hefyd. Gellir rhannu’r dulliau newydd yma o weithio ar lefel tirwedd wedyn.
Clwstwr o
ffermwyr rhagweithiol
Mae Grŵp Dŵr y Bannau yn dod o fewn menter y BBMC. Clwstwr o ffermwyr rhagweithiol sydd wedi meithrin partneriaeth unigryw â ni i ddarparu arferion rheoli tir sy’n llesol i bawb ohonom ni yw’r grŵp. Y bartneriaeth hon yw’r cyntaf o’i math yng Nghymru, a gyda’n gilydd rydyn ni’n archwilio sut y gallwn efelychu ein llwyddiannau gyda chlystyrau ffermio eraill ar draws ein dalgylchoedd dŵr yfed.
Mae’r Grŵp yn cynnwys:
- Richard Roderick, Fferm Newton, Aberhonddu. Ffermwr defaid, gwartheg a thir âr, mentor Cyswllt Ffermio a fferm arddangos Amaeth-Ganolbwynt cyntaf Cymru.
- Keri Davies, Fferm Glwydcaenewydd, Crai. Ffermwr defaid a gwartheg organig tir uchel ag elfen sylweddol o lety gwyliau. Mentor Cyswllt Ffermio.
- Hugh Martineau, Fferm Treberfydd, Llyn Syfaddan. System ffermio tir isel, mewnbwn isel ar lannau Llyn Syfaddan â chynefinoedd ecolegol amrywiol.
- David Thomas, Fferm Penwern, Llansbyddid. Fferm defaid, gwartheg a thir âr sy’n canolbwyntio ar reoli porthiant mewn ffordd gynhyrchiol mewn lleoliad wrth ymyl yr A40 sy’n dod â sialensiau o ran rheoli dŵr.
- Alun Thomas, Fferm Pendre Uchaf, Llyn Syfaddan. Ffermwr godro a thir âr yn NVZ Llyn Syfaddan.
- Julie Finch, rheolwr prosiect a strategaeth amaeth â phrofiad o’r diwydiant cynhyrchu cig eidion a chig oen.
- Ben Williams, Fferm Greenway, Llanhamlach, Aberhonddu. Ffermwr cymysg yn Nyffryn Wysg sy’n cynhyrchu cig carbon sero trwy ddefnyddio glaswellt a technegau dim troi tir ers 2008.
Cydweithio
Mae cefnogaeth i BWG ar dwf ymysg y sefydliadau a’r rhanddeiliaid allweddol sy’n gweld y bartneriaeth yma fel ffordd newydd arloesol o weithio ar ffermydd er mwyn cyflawni manteision niferus ar gyfer dŵr a’r amgylchedd ehangach:
- ‘Sêr y Bannau’: mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hybu’r Grŵp am ei fod yn ymgorffori’r dull cydweithredol ac agored y mae’r parc yn chwilio amdano yn ei holl bartneriaid, fel esiampl dda o feddylfryd blaengar.
- Cynnal grwpiau Rheoliadol: Mae BWG wedi rhoi dau gyflwyniad i Fforwm Rheoli Tir Cymru (WLMF) Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a bydd yn croesawu WLMF i un o’r ffermydd ym Mehefin 2023 er mwyn denu cefnogaeth i gyflwyno’r dull yma o weithredu ar draws Cymru.
- Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy Newydd: Mae ymgynghoriad Lywodraeth Cymru’n cynnwys adran gyfan sy’n hyrwyddo gweithgareddau BWG – sy’n dangos atebion syml y gellir eu hefelychu er budd ffermydd a’r amgylchedd.
Mae’r bartneriaeth hon yn dod â llu o fanteision i ni i ac i ffermwyr BWG. Rydyn ni’n gweld BWG fel rhywbeth rhagweithiol sy’n rhan o ateb, ac o’n rhan ni, rydyn ni’n bartner allweddol y mae pobl yn ymddiried ynddo. Mae’r cydweithio ond megis dechrau, ond mae gwersi allweddol yn cael eu dysgu sy’n cynnig cyfleoedd rhagorol i ni fynd â nhw allan at grwpiau eraill:
- Mae ymbweru ffermwyr i ddod o hyd i atebion yn meithrin ymgysylltiad a newid yn eu meddylfryd.
- Mae yna ddiddordeb go iawn mewn ‘gwneud y peth iawn’ sy’n dangos bod ffermwyr yn ‘rhan o’r ateb’.
- Mae gwasanaethau hwyluso medrus yn hanfodol i gynnal grwpiau ac mae yna gydnabyddiaeth fod perthnasau’n cymryd amser i ddatblygu.
- Bydd cael nifer o grwpiau bychain yn cyflawni mwy na chael llai o grwpiau mawr – ac mae’r ymdeimlad o berthyn a hunan-barch yn elfen allweddol wrth ymbweru pobl.
- Mae BWG yn meddwl y tu hwnt i’r gymuned ‘arferol’ er mwyn creu grŵp arloesol, blaengar, sy’n helpu i ddylanwadu ar bolisi, ac sy’n sefydliad i droi ato am fewnbwn adeiladol ar y sialensiau a’r cyfleoedd y mae ffermwyr yn eu hwynebu yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Partneriaeth BWG sy’n ein llywio ni o ran ein dull o weithredu wrth reoli dalgylchoedd yng Nghymru, gan ein cynorthwyo ni i feddwl mewn ffordd wahanol am sut rydyn ni’n ymgysylltu pobl er mwyn cyflawni atebion sy’n diogelu ein ffynonellau dŵr yfed ac yn amddiffyn rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Byddwn ni’n defnyddio’r bartneriaeth hon fel carreg sarn i gysylltu’r gymuned ffermio ehangach er mwyn gwella gwytnwch ein gweithfeydd trin dŵr er budd ein cwsmeriaid wrth gefnogi busnesau ffermio hefyd.
Rydyn ni’n credu’n gryf fod y bartneriaeth hon yn llwyddo i ddangos sut y gall cwmnïau dŵr a grwpiau ffermwyr gydweithio i gyd-greu’r atebion a fydd yn fuddiol i’r gymuned ffermio ac yn amddiffyn yr amgylchedd.