Neidio i’r cynnwys

Ein Proses Gwyno


Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn diogelu data personol ac yn gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf. Os ydym wedi gwneud camgymeriad neu wedi gwneud rhywbeth o'i le, rhowch wybod i ni er mwyn inni allu gwneud pethau'n iawn i chi cyn gynted â phosibl.

We have a legal obligation to respond to data protection queries within 30 days however, we aim to respond to you within 10 working days. If we need more time, we will contact you to let you know. Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ymateb i ymholiadau diogelu data o fewn 30 diwrnod, fodd bynnag, ein nod yw ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith. Os oes angen mwy o amser arnom, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi.

Y ffordd orau o gysylltu â ni yw defnyddio un o'r ffurflenni ar dwrcymru.com/contactus.

Fel arall; gallwch anfon e-bost at dataprotectionofficer@dwrcymru.com.

Neu

Ysgrifennu atom i; Dŵr Cymru Welsh Water Blwch Post 690, Caerdydd, CF3 5WL.

Byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn i'ch ymholiad neu'ch cwyn ac yn darparu ymateb llawn.

Cwynion i'r rheoleiddiwr

Os ydych chi'n anhapus â'n hymateb terfynol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a gofyn iddynt adolygu eich achos ar eich rhan.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Gallwch gysylltu â nhw ar-lein yn www.ico.org.uk.

Gallwch eu ffonio ar 0303 123 1113..