Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog
Mae Bannau Brycheiniog yn cyflenwi bron i hanner y dŵr yfed yr ydym ni’n ei ddarparu i'n cwsmeriaid bob dydd, felly gallech ei alw'n Fega-ddalgylch ar gyfer dŵr.
Mega Ddalgylch i Bawb
Bannau Brycheiniog sy'n darparu bron i hanner y dŵr yfed rydym yn ei gyflenwi i'n cwsmeriaid bob dydd, felly gallech ei alw'n Fega Ddalgylch ar gyfer dŵr.
Ond nid dŵr yw'r unig beth sy'n gwneud ein Bannau'n hynod. Mae cymunedau, bioamrywiaeth, amaethyddiaeth, coedwigaeth a thwristiaeth oll yn chwarae eu rhan wrth greu tirlun mor eiconig sy'n darparu cymaint i gynifer o bobl.
Rydyn ni wedi meddwl am syniad a fydd yn helpu Bannau Brycheiniog i barhau i ffynnu a meithrin gwytnwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - rydyn ni am droi'r ardal yn Fega Ddalgylch i bawb.
Yn syml, rydyn ni am gydnabod faint y mae'r ardal hon yn ei ddarparu ar ein cyfer ar lefel tirwedd, yn hytrach na gweithio ar brosiectau un mater o fewn ffiniau nad yw byd natur yn eu cydnabod.
Rydyn ni am weithio gyda rhanddeiliaid i gyd-greu gweledigaeth gyffredin a fydd yn cyflawni'r deilliannau gorau posibl i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn elwa ar Fannau Brycheiniog.
Trwy rannu syniadau, gwybodaeth a brwdfrydedd, byddwn ni'n cyflawni gymaint yn fwy dros lesiant amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru gynaliadwy.
Felly beth ydych chi'n ei feddwl? Awn amdani?
Rhowch wybod i ni trwy WaterSource@dwrcymru.com
Wylio'r fideo cryno isod ar Fega-ddalgylch Bannau Brycheiniog
Newyddion Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog
Gydweithio i reoli tir
Yn ddiweddar, cafodd partneriaid o grŵp llywio Megaddalgylch Bannau Brycheiniog (BBMC) Dŵr Cymru wahoddiad i ymweld â gweithfeydd trin dŵr (GTD).
Grŵp Dŵr y Bannau'n croesawu ymwelwyr o Norfolk
Yn dilyn eu hymweliad â Norfolk ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, croesawodd Grŵp Dŵr y Bannau ymwelwyr draw i Gymru eleni.
Taf Fechan
Galw ar drigolion i helpu i bennu gweledigaeth ar gyfer ardaloedd lleol er mwyn sbarduno newid cadarnhaol
Penodi swyddog prosiect Taf Fechan
Swyddog prosiect yn ei swydd ers diwedd Hydref 2020 am gyfnod o 12 mis
Trwy lygad aderyn
Golwg newydd ar Brosiect Cymuned a Thirwedd Taf Fechan
Hedfan fry i gael golwg manylach ar ein prosiect cymunedol diweddaraf ym Mhontsticill