Neidio i’r cynnwys

Cynnal y gweithfeydd trin dŵr ym mhob tywydd


Mae ein tîm Dalgylchoedd Dŵr Yfed yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i ddeall sut mae ansawdd dŵr yn newid dros y tymhorau. Ar bob adeg o’r flwyddyn, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n darparu dŵr yfed glân a diogel, ac mae hynny’n cynnwys dros y gaeaf.

Un o’r pethau da am fod allan yn yr awyr agored yw’r golygfeydd gaeafol godidog a welwn yn aml wrth fynd allan i gasglu samplau mewn mannau anhygoel.

Dywedodd Charlotte Bryan, un o’n Gwyddonwyr Dalgylch: "Mae’r golygfeydd prydferth yn gwrthbwyso’r tywydd ac maen nhw wir yn codi calon rhywun ambell i ddiwrnod. Mae ein cronfeydd dŵr mewn rhai o ardaloedd harddaf Cymru, felly rydw i wastad yn gwneud yn siŵr bod gen i gamera wrth law i gofnodi rhai o ryfeddodau byd natur."

Bore barugog wrth samplo yng Nghronfa Ddŵr Dolwen yn y gogledd ym mis Ionawr
Bore barugog wrth samplo yng Nghronfa Ddŵr Dolwen yn y gogledd ym mis Ionawr.

Aeth aelodau o’r tîm, Gemma Godwin ac Alwyn Roberts allan i Afon Gwril am ymweliad dalgylch i ymchwilio i newidiadau dalgylch a allai ddylanwadu ar newidiadau yn lliw a llwydni’r dŵr crai yn rhan o ymchwiliadau yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastadgoed.
Swyddfa heddiw: Aeth aelodau o’r tîm, Gemma Godwin ac Alwyn Roberts allan i Afon Gwril am ymweliad dalgylch i ymchwilio i newidiadau dalgylch a allai ddylanwadu ar newidiadau yn lliw a llwydni’r dŵr crai yn rhan o ymchwiliadau yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastadgoed.

Afon fach yw Afon Gwril sy’n llifo trwy dirwedd wasgaredig brydferth.
Afon fach yw Afon Gwril sy’n llifo trwy dirwedd wasgaredig brydferth.

Charlotte Bryan a Gemma Godwin yn ymuno â gwyddonwyr o dîm Prosesau’r Gogledd, Claire Parslow a Siôn Pingle, gyda Will Pugh o’r tîm Cynhyrchu, i gyflawni ymchwiliadau yn Nant Braich y Rhiw.
Charlotte Bryan a Gemma Godwin yn ymuno â gwyddonwyr o dîm Prosesau’r Gogledd, Claire Parslow a Siôn Pingle, gyda Will Pugh o’r tîm Cynhyrchu, i gyflawni ymchwiliadau yn Nant Braich y Rhiw.

Charlotte Bryan yn gwneud gwaith samplo ar safle mewnfa Manorafon yn y de-orllewin
Charlotte Bryan yn gwneud gwaith samplo ar safle mewnfa Manorafon yn y de-orllewin.

Aeth yr Arbenigydd Risgiau Dŵr, Alice Skennerton-Barroll, a’r gwyddonydd Dalgylch, Charlotte Bryan, allan ar Lwyn Onn ar ddiwrnod rhewllyd cyn y Nadolig
Aeth yr Arbenigydd Risgiau Dŵr, Alice Skennerton-Barroll, a’r gwyddonydd Dalgylch, Charlotte Bryan, allan ar Lwyn Onn ar ddiwrnod rhewllyd cyn y Nadolig i gymryd samplau o gwmpas y dalgylch.

Mae cronfa ddŵr Llwyn Onn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae cronfa ddŵr Llwyn Onn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r tywydd yn gallu bod yn oer iawn yno. Fe welwch fod rhan o’r gronfa wedi rhewi felly bu angen cymryd gofal arbennig wrth samplo.

Mae Charlotte ac Alice yn mwynhau mynd allan yn yr awyr iach ac wrth eu bodd â'u gwaith.
Ond waeth beth fo'r tywydd, mae Charlotte ac Alice yn mwynhau mynd allan yn yr awyr iach ac wrth eu bodd â'u gwaith.