Neidio i’r cynnwys

Uwchraddio Gweithfeydd Trin Dŵr Cefn Dryscoed


Ymgynghoriad Statudol cyn Cyflwyno Cais Cynllunio

Croeso i’n hymgynghoriad

Yma yn Dŵr Cymru, ein blaenoriaeth yw darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer pob cwsmer. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni’n adolygu ac yn uwchraddio ein hasedau a’n prosesau dŵr yfed ar draws ein gweithfeydd trin dŵr yn barhaus.

Rydyn ni’n cynllunio gwaith gwella hanfodol yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Cefn Dryscoed ar hyn o bryd. Bydd y gwaith uwchraddio yma’n helpu i wella’r broses trin dŵr gyfredol, yn gwella ansawdd y dŵr, yn lleihau’r perygl o ddŵr afliw, ac yn sicrhau ein bod ni’n parhau i fodloni’r safonau uchel a ddisgwylir o ran dŵr yfed yng Nghymru.

Mae gweithfeydd trin dŵr Cefn Dryscoed ym Mhowys o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, tua 10km i’r gogledd o Hirwaun. Ar hyn o bryd, mae’n darparu dŵr yfed ar gyfer 6,487 o eiddo yn ardal Cwm Nedd gan ddefnyddio dŵr o Gronfa Ddŵr Ystradfellte.

Beth ydyn ni’n ei gynnig?

Rydyn ni’n bwriadu uwchraddio’r safle trwy gyflwyno proses drin newydd o’r enw gweithfeydd Aer Tawdd Arnofiol. Bydd y broses newydd yma’n gwella sut mae solidau a gronynnau eraill yn cael eu tynnu o’r ffynhonnell dŵr trwy’r cam cyntaf o’r broses hidlo.

Caiff y gweithfeydd trin newydd eu hadeiladu ar dir wrth ymyl gweithfeydd trin dŵr cyfredol Cefn Dryscoed. Bydd hyn yn cynyddu maint y safle o ryw 2424m2. Bydd y safle cyfredol yn parhau i weithredu wrth i’r cyfleusterau newydd gael eu hadeiladu.

Pam mae angen cyflawni’r gwaith yma?

Mae rhai cwsmeriaid sy’n cael eu cyflenwadau o GTD Cefn Dryscoed wedi profi dŵr afliw ar adegau. Manganîs, sef mwyn naturiol a geir mewn cronfeydd dŵr, sydd wedi achosi hyn. Er nad yw manganîs yn beryglus ar y lefelau a geir mewn dŵr yfed, mae’n gallu afliwio cyflenwadau dŵr. Bydd adeiladu gweithfeydd Aer Tawdd Arnofiol yn caniatáu i ail gam y broses hidlo weithredu fel cam pwrpasol i dynnu’r manganîs.

Trwy uwchraddio’r broses drin, gallwn dynnu mwy o fanganîs a gronynnau eraill cyn i’r dŵr gyrraedd y rhwydwaith a’ch tapiau. Heb y buddsoddiad yma, mae’r problemau hyn yn debygol o barhau, ac mae’n bosibl na fydd modd i ni fodloni safonau dŵr yfed yn y dyfodol.

Bydd y prosiect yma’n helpu i sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i dderbyn cyflenwad dibynadwy o safon uchel am flynyddoedd i ddod.

Manylion y rhaglen

Mae’r cyfnod dylunio manwl wedi dechrau, a chaiff ei gwblhau cyn cyflwyno’r cais cynllunio ym mis Gorffennaf 2026. Yn amodol ar y caniatâd cynllunio perthnasol, disgwylir i’r gwaith adeiladu ddigwydd rhwng mis Gorffennaf 2027 a mis Medi 2028.

A fydd hyn yn effeithio ar fy nghyflenwad dŵr?

Nid ydym yn disgwyl toriadau yn y cyflenwad dŵr o weithfeydd Trin Dŵr Cefn Drysgoed yn ystod y gwaith o adeiladu a chomisiynu’r gweithfeydd newydd. Bydd gwaith adeiladu’n digwydd ar y safle neu’n agos ato, ond fe wnawn ein gorau i gadw’r sŵn, y traffig ac unrhyw effeithiau amgylcheddol i’r lefel isaf bosibl.

Y camau nesaf

Rydyn ni wrthi’n ymgynghori ar ein cynnig. Yn ein barn ni, hwn yw’r yr ateb hirdymor gorau i gynnal dŵr yfed o safon uchel yn yr ardal a chyflawni ein hymrwymiad i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Bydd ein hymgynghoriad statudol cyn cyflwyno’r cais cynllunio’n rhedeg o XX Chwefror 2026 i XX 2026. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch weld ein dogfennau cynllunio drafft, a rhannu eich safbwyntiau gyda ni cyn i ni gyflwyno cais cynllunio llawn.

Rydyn ni am glywed eich barn

Rydyn ni’n croesawu adborth gan ein cwsmeriaid, grwpiau cymunedol lleol, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect.

Byddwn ni’n ystyried eich sylwadau yn ofalus wrth i ni baratoi ein cais cynllunio. Caiff crynodeb o’r holl adborth - a’n hymateb iddo - ei gyhoeddi yn ein Hadroddiad Ymgynghori cyn Cyflwyno Cais, a fydd yn rhan o’r cais cynllunio terfynol.

Cyn mynegi eich barn, gofynnwn i chi gymryd yr amser i ddarllen trwy’r deunyddiau ymgynghori a’r dogfennau cynllunio drafft a ddarperir isod.

Rydyn ni’n croesawu ac yn annog adborth ar ein cynnig. Gallwch rannu eich adborth chi trwy e-bostio CefnDryscoed@dwrcymru.com

Lawrlwythiadau

Application form

Lawrlwytho
847.9kB, PDF

B17545-123532-12-XX-DR-CA-PN1202 P03 - Proposed Cross Site Elevations

Lawrlwytho
1.5MB, PDF

B17545-123532-12-ZZ-DR-CA-PN1201 P02 - Proposed Works Site Layout

Lawrlwytho
932.2kB, PDF

B17545-123532-14-XX-AS-NA-EI0083 P01 - Ecological Impact Assessment

Lawrlwytho
9.8MB, PDF

B17545-123532-14-XX-BR-NA-E10084 P01 - Green Infrastructure Statement

Lawrlwytho
28kB, PDF

B17545-123532-14-XX-DR-NA-EI1222 P02 - Landscape Proposal

Lawrlwytho
906.9kB, PDF

B17545-123532-14-XX-NN-CA-EI0093 P01 - Cefn Dryscoed WTW DAF Drainage Statement

Lawrlwytho
18kB, PDF

B17545-123532-14-XX-RP-NA-EI0062 P02 - Arboricultural Impact Assessment

Lawrlwytho
4.8MB, PDF

B17545-123532-14-XX-RP-NA-EI0063 P02 - Historic Environment Desk Based Assessment

Lawrlwytho
7.5MB, PDF

B1754512353214XXRPNAEI0066 P01 Planning Design and Access Statement 1

Lawrlwytho
1.4MB, PDF

B17545-123532-14-XX-RP-NA-EI0089 P02 - Landscape and Visual Impact Assessment

Lawrlwytho
35.5MB, PDF

B17545-123532-14-ZZ-DR-NA-EI1224 P01 - Landscape Sections

Lawrlwytho
18.3MB, PDF

Adroddiadau

B17545-123532-14-XX-AS-NA-EI0057 P02 - Hedgerow Survey Report

Lawrlwytho
22MB, PDF

B17545-123532-14-XX-DR-NA-EI0055 P01 - Hazel Dormouse Survey Report

Lawrlwytho
26.1MB, PDF

B1754512353214XXDRNAEI1210 P01 A report to inform a Habitats Regulations Assessment HRA

Lawrlwytho
9MB, PDF

B17545-123532-14-XX-RP-NA-EI0082 P01 - Barn Owl Survey Report

Lawrlwytho
3.7MB, PDF

B17545-123532-14-ZZ-AS-NA-EI0006 P03 - Preliminary Ecological Appraisal Report

Lawrlwytho
8.4MB, PDF

B17545-123532-14-XX-AS-NA-EI0011 P02 - Bat Survey Report - Confidential

Lawrlwytho
14.8MB, PDF

B17545-123532-14-XX-DR-NA-EI0050 P01 - Badger Survey Report

Lawrlwytho
2.6MB, PDF

Cynlluniau

B17545-123532-12-XX-DR-CA-PN1203 P02 - Enabling Works Layout Plan (1)

Lawrlwytho
672.3kB, PDF

B17545-123532-12-XX-DR-CA-PN1205 P01 - Site Boundary Plan

Lawrlwytho
436.7kB, PDF

B17545-123532-12-ZZ-DR-EA-PN1225 P01 - Lighting Plan

Lawrlwytho
1.1MB, PDF

B17545-123532-14-XX-DR-NA-EI1206 P01 - Tree Constraints Plan

Lawrlwytho
648.2kB, PDF

B17545-123532-14-XX-DR-NA-EI1207 P03 - Tree Protection Plan

Lawrlwytho
676.9kB, PDF

B17545-123532-14-XX-PR-NA-CJ0081 P01 - Construction Traffic Management Plan

Lawrlwytho
1.6MB, PDF

B1754512353214XXPRNAEI0085 P01 Landscape and Ecology Management Plan LEMP

Lawrlwytho
697.8kB, PDF

B17545-123532-14-XX-PR-NA-EI0086 P01 - Construction Environmental Management Plan

Lawrlwytho
1.8MB, PDF

B17545-123532-14-ZZ-DR-NA-EI1220 P01 - Pollution Prevention Layout Plan

Lawrlwytho
693.1kB, PDF

B17545-123532-14-ZZ-DR-NA-EI1221 P02 - Traffic Management Layout Plan

Lawrlwytho
609.5kB, PDF